Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Christopher El Gifari ei ddedfrydu i garchar am oes a bydd yn y carchar am o leiaf 32 o flynyddoedd. Cafodd hefyd ei ddedfrydu am ddeg mlynedd am ladrad, i'w bwrw ar yr un pryd.
Cafwyd y dyn 32 mlwydd oed yn euog o lofruddio Mark Lang a dwyn oddi arno yn dilyn achos yn Llys y Goron Caerdydd fis diwethaf.
Dychwelodd i'r llys heddiw (Dydd Gwener, 1 Rhagfyr) i gael ei ddedfrydu.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell, o Heddlu De Cymru:
“Heddiw, mae'r llys wedi dedfrydu Christopher El Gifari i garchar am oes gyda chyfnod o 32 o flynyddoedd o leiaf am lofruddiaeth Mark Lang.
"Rydym yn gobeithio y gall y ddedfryd heddiw helpu teulu a ffrindiau Mark i symud ymlaen. Mae Heddlu De Cymru yn meddwl amdanynt, ac wrth gwrs, am Mark.”
Am 12.49pm ar 28 Mawrth, galwyd y gwasanaethau brys ar ôl adroddiad am wrthdrawiad un cerbyd ar Heol y Gogledd yn Cathays, Caerdydd.
Yn dilyn ymholiadau, daeth yn hysbys mai fan danfon oedd y cerbyd dan sylw a oedd wedi cael ei dwyn o Laytonia Avenue gan Christoper El Gifari.
Roedd Mark Lang, y gyrrwr danfon, a oedd wedi bod yn danfon parseli, wedi sefyll o flaen ei fan mewn ymdrech i atal El Gifari ond gyrrwyd drosto a chafodd ei lusgo o leiaf 743 metr.
Cofnododd y camerâu cyflymder ar Heol y Gogledd fod y fan yn teithio ar gyflymder o 47mya.
Daeth y fan i stop wrth gyffordd New Zealand Road a rhedodd El Gifari i ffwrdd.
Ceisiodd aelodau o'r cyhoedd eu gorau i helpu ac i gysuro Mark, 54 oed, a oedd wedi'i anafu'n ddifrifol.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gweithwyr meddygol proffesiynol, ni ddaeth Mark ato'i hun a bu farw o'i anafiadau 18 diwrnod yn ddiweddarach.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Rebecca Merchant, o Heddlu De Cymru:
"Roedd Mark Lang yn bartner, tad, mab, brawd, ewythr, a ffrind annwyl, a gafodd anafiadau angheuol wrth wneud ei waith yng Nghaerdydd fel dyn danfon nwyddau.
"Yn ystod y prynhawn ar 28 Mawrth 2023, gwnaeth Christopher El Gifari y penderfyniad ymwybodol i ddwyn fan Mark a'i gyrru ar gyflymder i mewn iddo, gan achosi anafiadau na fyddai Mark byth yn ymadfer ohonynt a newid bywyd teulu Mark am byth.
"Rwy'n cydnabod na all unrhyw beth ddod â Mark yn ôl nac unioni'r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw, ac er na all y canlyniad heddiw fyth gwneud iawn i deulu Mark am eu colled ofnadwy, rwy'n gobeithio y bydd yn cynnig rhywfaint o gysur i bawb sy'n ei garu.
"Hoffwn dalu teyrnged i'r tosturi a ddangoswyd gan aelodau o'r cyhoedd a geisiodd eu gorau i helpu a chysuro Mark, ac i broffesiynoldeb swyddogion yr heddlu a chydweithwyr y gwasanaethau brys a aeth i'r digwyddiad.
"Rwy'n ddiolchgar i gymuned Gabalfa am ei chefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad, yn enwedig drwy ddarparu deunydd Teledu Cylch Cyfyng a fu'n hollbwysig i'r achos hwn.
"Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r tîm o dditectifs a staff yr heddlu sydd wedi gweithio'n ddiflino ar yr ymchwiliad hwn ar y cyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Cwnsler Erlyn. Mae ymdrechion pawb dan sylw wedi cyfrannu at y canlyniad heddiw."
Datganiad gan y teulu yn dilyn y gollfarn ar 23 Tachwedd:
“Mae'r teulu yn croesawu penderfyniad y Llys heddiw i ganfod Christopher El Gifari yn euog o lofruddio Mark.
“Hoffwn ddiolch i'r rheithgor, yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron am eu gwaith caled a'u cefnogaeth dros yr ychydig fisoedd ac wythnosau diwethaf. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhai a helpodd Mark, o'r bobl a ffoniodd 999 a gafael yn ei law, i'r Parafeddygon a'i helpodd yn lleoliad y digwyddiad a'i drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle derbyniodd ofal tyner a diflino gan bawb yn y tîm gofal critigol.
“Mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn trawmatig i ni fel teulu ar ôl llofruddiaeth creulon Mark, a oedd mor ddibwrpas. Mae'n rhaid i ni nawr wynebu bywyd hebddo. Mae ei bartner nawr yn wynebu bywyd ar ei phen ei hun. Ni fydd yno pan fydd ei ferched yn priodi ac ni fydd ei wyrion a'i wyresau yn cael cyfarfod â'u tad-cu. Bydd yn rhaid i ni fyw drwy'r atgofion y gwyddom y byddai wedi'u trysori os byddai'n dal yma gyda ni.”