Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a oedd mewn trallod mewn afon wedi'i achub gan ddau swyddog.
Cafodd y swyddogion eu hanfon ar ôl cael galwad bod dyn mewn argyfwng yn mynd tuag at afon Ogwr.
Ar ôl ei weld mewn trafferth yng nghanol y dŵr, aeth PC Jones a PC Markey i ganol yr afon, gan ddal ar ei gilydd, er mwyn cael gafael ar y dyn a oedd yn boddi ac yn dioddef o hypothermia.
Ar ôl dod ag ef at lan yr afon, dywedwyd wrth y swyddogion y byddai ambiwlans yn cymryd awr i gyrraedd, felly gwnaethant ei yrru â golau glas i'r ysbyty a hwythau'n dal i fod yn wlyb diferol.
Dywedwyd bod cyflwr y dyn yn gritigol oherwydd yr hypothermia, ond mae bellach wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty ar ôl gwella o'i anafiadau.
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Gibbons:
"Does dim amheuaeth fod dewrder ac anhunanoldeb PC Jones a PC Markey wedi achub bywyd y dyn hwn. Roedd eu dewrder aruthrol i fynd i mewn i'r dŵr oer yn weithred hynod anhunanol ac maent yn haeddu cael eu cydnabod.
"Yn dangos Heddlu De Cymru ar ei orau, da iawn i'r ddau."