Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd swyddogion a staff yr heddlu sydd wedi gwasanaethu y tu hwnt i'w cyfrifoldebau eu cydnabod yn noson wobrwyo Trosedd a Chyfiawnder Troseddol Heddlu De Cymru.
Arddangoswyd enghreifftiau yn y digwyddiad o sut bydd swyddogion a staff ar draws yr holl adrannau yn amddiffyn y cyhoedd rhag troseddau cyfundrefnol, yn ymchwilio i laddiadau cymhleth, a sut y byddant yn cefnogi teuluoedd y rheini a fu farw o dan rai o'r amgylchiadau mwyaf erchyll.
Roedd cydnabyddiaeth ar gyfer y rheini sydd wedi treulio eu holl fywyd gwaith yn plismona ac ar gyfer eraill sy'n cyflawni rolau ymchwiliol hanfodol, megis dadansoddwyr, ymchwilwyr data'r adran gysylltiadau, staff o'r Uned Ymchwilio Wyddonol ar y Cyd a'r Uned Fforensig Ddigidol.
Ymhlith y rhai a gafodd eu cydnabod roedd y timau o dditectifs a ymchwiliodd i lofruddiaeth Tomasz Waga, a dynladdiad June Fox-Roberts; timau a dynnodd grwpiau troseddau cyfundrefnol yn ddarnau ac a ddaeth o hyd i asedau troseddol mewn ymgyrchoedd megis Ymgyrch Leven ac Ymgyrch Malachite, ynghyd â'r tîm a ymchwiliodd i herwgipiad Ymgyrch Arbus.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd, Ceri Hughes, Pennaeth Trosedd a Chyfiawnder Troseddol:
"Mae'r gwobrau'n cynrychioli canran fach o'r gwaith anhygoel y mae'r timau ar draws yr heddlu yn ei wneud bob dydd ac yn cydnabod y rheini sy'n mynd y tu hwnt i'w dyletswydd wrth wasanaethu ein cymunedau. Roedd y nifer o gyflawniadau y cawsom glywed amdanynt ar y noson yn ysbrydoledig.
"O ymchwiliadau i lofruddiaethau cymhleth ac ariannol i achosion o herwgipio a cham-drin pobl sy'n agored i niwed, arddangosodd y digwyddiad waith gwych swyddogion a staff Heddlu De Cymru yn mynd ar drywydd troseddwyr, yn amddiffyn pobl sy'n agored i niwed ac yn cefnogi dioddefwyr a'u teuluoedd mewn rhai o'r amgylchiadau anoddaf posibl.
"Roedd hefyd yn gyfle i ni gydnabod y staff a'r swyddogion sy'n cefnogi ymchwiliadau hanfodol ar draws yr heddlu yn ogystal â'r rhai a gafodd eu hanrydeddu am eu cyflawniad oes ac am arwain eu timau."