Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Talodd Heddlu De Cymru deyrnged i'r rhai a gollwyd heddiw yn ei wasanaeth coffa amlffydd blynyddol.
Cynhaliwyd y gwasanaeth teimladwy ym mhencadlys yr heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi'i arwain gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan a'i weinyddu gan Gaplan yr Heddlu, y Parchedig Robert Coyne.
Yn bresennol hefyd, roedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael, cydweithwyr ac anwyliaid rhai o'r unigolion a wnaeth yr aberth eithaf tra'n gwasanaethu eu gwlad, boed hynny ar faes y gad neu wrth ymgymryd â dyletswyddau gwasanaeth cyhoeddus.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Heddiw, fel degau ar filoedd o bobl ledled y DU, rydym yn meddwl am y rhai hynny sydd wedi gweld gwrthdaro ledled y byd, ac yn wir, y rhai hynny sy'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Yn rhy aml o lawer, rydym yn gweld y digwyddiadau ofnadwy hyn yn datblygu ar ein sgriniau teledu ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn ein hatgoffa o'u goblygiadau helaeth a'r colledion trasig o ran bywydau.
“Mae hwn yn achlysur mor bwysig, ac mae'n briodol ein bod yn parhau i ddangos ein parch a'n diolch i'r rhai a gollwyd wrth wasanaethu, nid yn unig fan hyn, ond ledled y wlad. Mae seremonïau fel y seremoni hon yn dod â'n cymunedau at ei gilydd, i ddangos ein dyngarwch ac i gryfhau ein hymdeimlad o gydlyniant yn ystod adegau o gynnwrf ac ansicrwydd.
“Mae'r aberth a wnaed gan aelodau o'n byddin, aelodau o wasanaeth yr heddlu ac yn wir, ein cydweithwyr ym mhob un o'r gwasanaethau brys a chyhoeddus i gadw ein cymunedau'n ddiogel yn dangos eu dewrder aruthrol, eu hymrwymiad, a'u teyrngarwch i'r gwasanaeth.
"Ni chânt fyth eu hanghofio.”
Ymhlith y rhai a gafodd eu cofio yn ystod y gwasanaeth, roedd tad a mab na wnaethant fyth adnabod ei gilydd, ond y gwnaeth eu bywydau a'u haberth eithaf adlewyrchu ei gilydd.
Mae enw Herbert Sidney Bennett i'w weld ar Goflech Heddlu Dinas Caerdydd yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd. Cafodd ei eni yn 1919 i Herbert yr hynaf a Gertrude Bennett.
Gwasanaethodd Herbert yr Hynaf fel Is-gapten â Chyffinwyr De Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd anaf angheuol yn Ffrainc – dim ond wythnosau cyn y Cadoediad.
Aeth ei fab ymlaen i ymuno â Heddlu Dinas Caerdydd yn 1938, lle gwasanaethodd fel cwnstabl dinas.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwasanaethodd fel rhan o Reolaeth Awyrennau Bomio'r Awyrlu Brenhinol.
Ar 2 Rhagfyr, 1943, roedd yn Awyr-ringyll ac yn gyfrifol am anelu bomiau ar awyren Lancaster pan gafodd ei saethu i'r ddaear wrth hedfan dros yr Almaen yn ystod cyrch ar Berlin. Cafodd chwe aelod o'r criw, gan gynnwys Herbert, eu lladd. Dim ond un goroeswr a fu a gafodd ei ddal a'i gymryd yn garcharor rhyfel.
Yn yr un modd ag y cawsant eu gwahanu oherwydd rhyfel mewn bywyd, mae'r tad a'r mab bellach yn gorffwys ymhell oddi wrth ei gilydd, mewn beddau dan ofal Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn yr Almaen ac yn Ffrainc.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Yn ein Gwasanaethau Coffa rydym yn esbonio pam rydym yno drwy'r geiriau ‘rhag i ni anghofio’ ac mae'n bwysig bod hyn yn cynnwys y dynion a'r menywod unigol a gollodd eu bywydau drwy erchylltra a thrychineb rhyfel.
“Heddiw o hyd, mae gwrthdaro ledled y byd yn effeithio ar lawer o bobl, gan gynnwys pobl sy'n rhan o gymunedau ledled De Cymru, ac rydym yn ymuno â nhw gan obeithio a gweddïo am heddwch o bob tu ac am ddiwedd i'w dioddefaint.
“Mae seremonïau fel y seremoni hon yn dod â phobl at ei gilydd wrth i ni gofio pob un a wnaeth yr aberth eithaf er mwyn y rhai hynny y gwnaethant eu gadael.
“Mae'r diwrnod hwn o gofio yn ein hatgoffa o'r cydberthnasau gwerthfawr sydd gennym â'n hanwyliaid, ein cydweithwyr a'n ffrindiau.
“Rydym yn cofio'r aelodau hynny o Heddlu De Cymru a fu farw wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau, ac rydym yn meddwl am eu teuluoedd. Mae heddiw yn gyfle i gofio amdanynt ond hefyd i ddathlu eu bywydau a'u gwasanaeth i gymunedau De Cymru.”
Gallwch ddarllen Trefn y Gwasanaeth yma.