Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i ddiflaniad Ricky Harris o Aberdâr, sydd ar goll. Mae adnoddau arbenigol wedi cael eu defnyddio a byddwn yn parhau i'w defnyddio yn ardal Aberdâr er mwyn chwilio am Ricky.
Gwelwyd Ricky, 31 oed, ddiwethaf ar CCTV tua 2.20pm brynhawn dydd Sadwrn, 18 Tachwedd, ym Maes-y-Deri, Aberdâr, yn gwisgo dillad llwyd a du.
Mae gan Ricky gysylltiadau ag Aberdâr, Pontypridd a Thredegar a gwyddys ei fod yn cerdded llwybr a gaiff ei adnabod yn lleol fel heol Dram.
Delwedd teledu cylch cyfyng o Ricky Harris
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Owain Morrison:
“Er gwaethaf nifer o apeliadau cyhoeddus, a honiadau posibl fod rhai wedi'i weld – nad ydynt wedi'u cadarnhau – mae Ricky ar goll o hyd ac mae pryderon am ei lesiant yn cynyddu.
“Rydym wedi bod yn defnyddio timau arbenigol drwy gydol yr ymchwiliad a byddwn yn parhau i wneud hynny, ond rydym yn dal i apelio i'r cyhoedd gysylltu â ni os oes gennych unrhyw wybodaeth.”
Gofynnir i unrhyw un a allai fod wedi'i weld, neu sydd â gwybodaeth a fydd yn ein helpu i ddod o hyd i Ricky, gysylltu â ni drwy ddefnyddio un o'r dulliau isod gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300394323.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.