Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Llun 20 Tachwedd, gwnaethom gyflwyno tîm patrôl amlwg ychwanegol ar gyfer Canol Dinas Abertawe fel rhan o Ymgyrch Viscaria.
Bydd y tîm yn darparu mwy o bresenoldeb plismona i atal amrywiaeth o broblemau sy'n effeithio ar ganol y ddinas, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a dwyn o siopau.
O 20 Tachwedd, bydd mwy o bresenoldeb plismona amlwg yng nghanol y ddinas, felly gall y rhai sy'n gweithio yng nghanol y ddinas ac yn ymweld â hi ddisgwyl gweld mwy o swyddogion yr heddlu yn yr ardal.
Dywedodd Mark Watkins, Arolygydd Plismona yn y Gymdogaeth:
"Mae'r ymddygiad sydd wedi'i weld yng nghanol y ddinas dros y chwe mis diwethaf yn gwbl annerbyniol.
"Rydym yn cyflwyno'r tîm patrôl amlwg ychwanegol hwn er mwyn gwneud yn siŵr na fydd neb sy'n byw, yn gweithio, neu'n siop yng nghanol dinas Abertawe yn wynebu ymddygiad bygythiol neu frawychus.
"Bydd gan dîm Ymgyrch Viscaria bwerau dewisol i wasgaru unigolion neu grwpiau sy'n achosi, neu'n debygol o achosi, aflonyddwch, ofn neu drallod i eraill. Mae'n galluogi swyddogion i gyhoeddi gorchymyn gwasgaru, sy'n cwmpasu ardal benodol am hyd at 48 awr, a fydd yn eu galluogi i gyfarwyddo unigolion 10 oed neu'n hŷn i adael yr ardal a pheidio â dychwelyd am gyfnod dynodedig.
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i ni, ac rydym yn cydweithio â'n partneriaid yng Nghyngor Abertawe ac AGB Abertawe i fynd i'r afael â'r problemau.
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r gweithgarwch troseddol sy'n gysylltiedig ag ef yn cael effaith andwyol fawr ar y gymuned leol a busnesau, ac rydym yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael ag ef."