Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ryan Ceri Whitefoot, 25 oed o Faglan, wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar ar ôl pledio'n euog i gyfres o droseddau rhywiol yn erbyn plentyn.
Mae wedi cael ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes, a bydd yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol yn cael am oes.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis: "Rwy'n croesawu'r ddedfryd sylweddol o garchar a roddwyd i Ryan Whitefoot.
"Mae ei ymddygiad tuag at ei ddioddefwr ifanc, a oedd ond yn 13 oed pan ddechreuodd y cam-drin, wedi bod yn gywilyddus. Hoffwn dalu teyrnged i'r dioddefwr, gan ei bod wedi dangos cryfder a dewrder anhygoel drwy gydol yr achos hwn. Rydym yn sefyll yn gadarn yn erbyn troseddau rhywiol, ac mae'r gollfarn hon yn cyfleu neges glir y byddwn yn dod â'r rhai sy'n cam-drin plant yn rhywiol ac yn camfanteisio arnynt o flaen eu gwell.
"Mae Heddlu De Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael â phob math o Drais yn Erbyn Menywod a Merched. Mae gennym swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig sy'n cael eu neilltuo i bob achos, ac rydym yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau partner i gefnogi'r rheini y mae'r math hwn o drais wedi effeithio arnynt.
"Byddwn yn annog unrhyw un i roi gwybod am unrhyw fath o gam-drin. Ymchwilir yn drylwyr i bob achos."