Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae busnesau lleol yn cefnogi ymgyrch newydd, gan hyrwyddo ymwybyddiaeth o gam-drin domestig ym mhob rhan o'r diwydiant gwallt a harddwch.
Menter cam-drin domestig a grëwyd gan ein huned Cam-drin Domestig yw #YmgyrchPrunella, a'i nod yw targedu siopau trin gwallt, siopau barbwr, salonau ewinedd a salonau harddwch lleol gyda'r nod o allu ymweld â'r busnesau hyn i hysbysu ac addysgu ynghylch Cyfraith Claire a diogelu.
Dywedodd PC Emma Byrne: “Bydd cwsmeriaid yn aml yn cael amser un-i-un gyda'u triniwr gwallt a/neu weithiwr harddu wrth ymweld â salon neu siop trin gwallt, sy'n eu hannog i ‘sgwrsio’.”
Lansiwyd Ymgyrch Prunella ar 3 Tachwedd a dechreuodd gyda swyddogion o'r Uned Cam-drin Domestig ochr yn ochr â PCSO's lleol yn ymweld â busnesau yng Nghastell-nedd. Cafodd Cam dau ei gyflwyno wythnos yn ddiweddarach lle y gwnaethom ymweld ag ardal ym Mhort Talbot. Dros y ddwy wythnos o lansio Ymgyrch Prunella, ymwelwyd â thros 50 o siopau trin gwallt, siopau barbwr, salonau ewinedd a salonau harddwch ac roeddent yn fodlon gweithio gyda swyddogion i ddysgu am Gyfraith Claire a sut y gallent gyfeirio eu cleientiaid os byddai angen.
Aeth PC Emma Byrne yn ei blaen: “Tra'r oeddem allan yn cysylltu â busnesau, daeth aelod o'r cyhoedd at y swyddogion gan ei fod wedi clywed y wybodaeth roeddent yn ei throsglwyddo i'r staff yn ddamweiniol. Gofynnodd a allem ei helpu. Roedd hwn yn gyfle gwych i ni ymyrryd, ac yn tynnu sylw at y ffaith bod cleientiaid yn ymweld â'r busnesau hyn ac yn aml yn rhannu eu ‘gofidiau’, gan wneud yr ymgyrch hon yn un gwbl gwerth chweil.”
Cysylltodd Lan, perchennog Nails Neath a chymerodd daflenni a phosteri. Dywedodd Lan: “Mae hwn yn beth da i fenywod. Mae pethau'n anodd arnynt os byddant mewn cydberthynas wael. Os byddant yn dod yma ac yn rhannu eu gofidiau, fel y maent yn ei wneud weithiau, gallwn ni eu haddysgu ar sut i gael help.
Bydd cam nesaf yr ymgyrch yn digwydd yn Abertawe, a'r gobaith yw y bydd llawer mwy o fusnesau lleol eisiau ymgysylltu a chymryd rhan.
Heddiw (25 Tachwedd) yw #DiwrnodRhubanGwyn, sef diwrnod cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod a merched. Mae'n gyfle i gadarnhau'r addewid a wnawn i beidio byth ag ymrwymo, esgusodi na chadw'n dawel am drais gan ddynion yn erbyn menywod a merched.
Menywod a merched yw dioddefwyr trais a chamdriniaeth i raddau anghymesur, a nhw sy'n dioddef fwyaf oherwydd partner, cyn bartner neu aelod o'r teulu ac weithiau gan ddieithryn.
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod angen help, cysylltwch â ni neu rywun rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad ag ef, er mwyn i ni allu cymryd camau gweithredu.
I roi gwybod ar-lein am ddigwyddiad nad yw'n argyfwng
Gallwch hefyd gael yr help a'r cymorth sydd ar gael gyda Byw Heb Ofn, sef partneriaeth o wasanaethau cam-drin domestig sy'n cynnig ymateb yn Ne Cymru.
Darllenwch Strategaeth Mynd i'r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched yma: Trais yn Erbyn Menywod Genethod - Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau (comisiynydddecymru.org.uk)