Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Agor anrhegion, bwyta twrci, yfed siampên, a threulio amser gwerthfawr gydag anwyliaid.
Mae hi'n drefn Nadoligaidd sy'n gyfarwydd iawn i lawer, ond i eraill sy'n dathlu'r Nadolig, bydd eu trefn nhw yn edrych yn wahanol iawn wrth iddynt wisgo eu helmedau a'u radios neu bensetiau a'u lifrai.
Dyma dri aelod o #TîmHDC a fydd yn gweithio ar Ddydd Nadolig eleni, yn #CadwDeCymruYnDdiogel.
"Byddaf yn gweithio'r sifft dydd eleni, rhwng 7am a 4pm – y llynedd roeddwn i'n gweithio gyda'r nos ar Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig.
"Y llynedd oedd fy Nadolig cyntaf fel swyddog yr heddlu, ac fel y rhan fwyaf o sifftiau, gwnaeth y tîm fyd o wahaniaeth. Gwnaethom gynnal ‘pot lwc’ ar Noswyl Nadolig, lle gwnaeth pob un o'r tîm ddod â bwyd gwahanol a chawsom fwffe Nadolig; wrth gwrs byrbrydau oedd y rhain, gan na allwch fyth gynllunio ar gyfer pryd poeth oherwydd dydyn ni byth yn gwybod pa alwadau a fydd yn ein cyrraedd na phryd. Roedd ffilmiau a cherddoriaeth Nadoligaidd ymlaen yn y cefndir yn yr orsaf ac roedd pawb yn teimlo ysbryd yr ŵyl.
"Ni fyddaf yn gweithio ar Noswyl Nadolig eleni, felly rwy'n edrych ymlaen at dreulio'r diwrnod hwnnw gyda fy ngŵr a fy nheulu. Byddaf hefyd yn gweld fy nheulu ar ôl y gwaith ar Ddydd Nadolig a gobeithio y bydd rhywun wedi cofio paratoi swper i mi gyda'r holl drimins!
"Yn debyg i'r llynedd, mae ein tîm wedi trefnu brecwast pot lwc. Mae'r ffaith bod ganddynt y pethau bach hynny i edrych ymlaen atynt yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r rhai sy'n gweithio ar adeg pan na fydd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny. Yna byddaf yn ôl yn gweithio ar Ddydd San Steffan ar gyfer y gêm bêl-droed rhwng Dinas Caerdydd a Plymouth.
"Felly fydd dim llawer o amser i ymlacio, ond does dim ots gen i mewn gwirionedd. Ond pe gallwn ofyn i'r cyhoedd am un peth, byddwn yn gofyn iddynt fod yn ymwybodol o'u terfynau a bod yn garedig ac yn ystyriol o eraill. Nid pawb sy'n gallu dathlu gyda'u teuluoedd, felly mae ychydig o garedigrwydd, yn enwedig tuag at y rhai sy'n gweithio i gadw pobl eraill yn ddiogel, yn cael ei werthfawrogi'n fawr."
- PC Jordanne Jones, swyddog ymateb wedi'i lleoli yn y Barri.
"Eleni, rwy'n gweithio'r shifft nos ar noson Nadolig, felly o 7pm tan 7am ar Ddydd San Steffan. Rwyf wedi gweithio sawl shifft Nadolig yn ystod fy ngyrfa, ond hwn fydd y tro cyntaf ers sawl blwyddyn nawr.
"Mae gen i deulu ifanc gartref – tri phlentyn a gwraig – felly mae'n bwysig fy mod yn treulio cymaint o'r diwrnod ag y gallaf gyda nhw. Byddaf yn cael eu gweld yn agor anrhegion ac yn cael cinio Nadolig gyda nhw ond yna byddaf yn troi fy meddwl i fynd i'r gwaith am y noson. Mae'r plant yn ifanc o hyd, felly er y byddaf yn gweithio, rwy'n teimlo'n ffodus y byddaf yno ar gyfer yr adegau hudolus hynny, ond mae'n anodd gorfod gadael pan fydd pawb yng nghanol y dathlu.
"Gall fod yn anodd mynd i'r gwaith ar Ddydd Nadolig pan fydd y rhan fwyaf o bobl eraill gartref yn mwynhau, ond rwy'n meddwl bod elfen o falchder yn hynny hefyd. Nid yw plismona'n dod i stop ac mae Dydd Nadolig fel unrhyw ddiwrnod arall. Mae bob amser yn bosibl y bydd angen ein help a'n cefnogaeth ar bobl. Ac rydych yn dod i'r gwaith i wneud gwahaniaeth, boed hynny ar Ddydd Nadolig neu ar unrhyw ddiwrnod arall o'r flwyddyn. Rydych chi yma i wneud eich gorau dros y rhai sydd angen help.
"Bydd pawb yn yr ystafell yn cefnogi ei gilydd a byddwn yn ceisio sicrhau ei fod mor ddedwydd â phosibl. Rydym bob amser yn cynllunio ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau i ddelio â'r galwadau a gawn dros y Nadolig a Gwyliau Banc ac ati, a fy rôl fel pennaeth yr adran yw sicrhau bod pawb yn gweithio, yn gwneud gwaith hanfodol iawn, yn cael eu diolch, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn cael eu cefnogi i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau.
"Mae gan bawb sy'n gweithio yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus deulu a bywyd y tu allan i'r gwaith, ac maent yn dod i mewn i wneud gwaith pwysig, gan adael eu teuluoedd gartref ar ddiwrnod sy'n arbennig iawn i lawer – felly rydym yn ceisio ei wneud mor ddedwydd a Nadoligaidd â phosibl gan gofio eu bod yma i wneud gwaith pwysig iawn."
Yr Uwch-arolygydd Jason Rees, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus.
"Rwy'n gweithio'r shifft bore, rhwng 8am a 6pm. Rwyf wedi gweithio mwy o Nadoligau nag y gallaf gofio. Does gen i ddim plant i'w hystyried – wel, ar wahân i un bach blewog sy'n cyfrif wrth gwrs! – ond mae gennym ni rieni oedrannus ar y ddwy ochr. Ond mae gan y ddau ohonom ni frodyr a chwiorydd i ofalu amdanyn nhw, a dyna sy'n bwysig.
"Rwy'n gweithio ar Ddydd San Steffan, felly byddaf yn dathlu ar ôl hynny. Pan fydd pawb wedi cael digon, byddaf yn barod i fwynhau! Rwy'n llysieuwr felly does dim llawer o ots gen i fy mod yn colli cinio Nadolig, ond mae fy mhartner yn bwyta cig ac nid yw'n gweithio dros wythnos y Nadolig, felly mae'n siomedig fy mod yn gweithio.
"Ond mae'n tueddu i weithio allan. Byddaf yn cael amser i ffwrdd wedyn a byddwn yn mynd allan gyda ffrindiau ac ati, felly bydd yn iawn. Byddwn yn cael Nadolig o hyd, dim ond ei fod yn edrych ychydig yn wahanol ac yn digwydd ar adeg wahanol.
"Gall gweithio ar Ddydd Nadolig fod yn llawer o hwyl; bydd pawb yn llawn hwyl ac am wneud y gorau o bethau, ac mae digon o fwyd a danteithion i'w cael, felly er nad yw'n Nadolig traddodiadol, gall fod yn hyfryd o hyd.
"Gall y galw fod yn anwadal. Gall fod yn dawel iawn ar adegau, ond mae'n tueddu i gynyddu drwy gydol y dydd – erbyn yr adeg y bydd pawb wedi cael llond bol o fwyd ac alcohol, ac efallai wedi treulio mwy o amser na'r arfer yng nghwmni ambell berson – yn aml bydd yn prysuro. Wyddoch chi byth sut aiff y diwrnod, ond rwyf wedi gweld popeth dros y blynyddoedd yn y rôl hon. Mae Dydd Nadolig bob amser yn amrywiol iawn, a byddwn yn cael pob math o alwadau. Ond does dim ots gen i weithio; mewn sawl ffordd, dim ond diwrnod arall ydyw ac nid yw'r angen am ein gwasanaethau yn diflannu am ei bod yn Nadolig."
Helen Stuckey, Swyddog Datrys Digwyddiadau a Risg, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus