Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gellir bellach enwi'r unigolyn a fu farw yn dilyn ffrwydrad mewn adeilad yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, fel Danielle Evans, 40 oed.
Cafodd ei hadnabod yn ffurfiol y bore yma ac mae ei theulu yn cael cefnogaeth gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Mae teulu Danielle wedi talu'r deyrnged ganlynol iddi;
“Roedd Dan yn fenyw arbennig. Mae'n gadael bwlch yng nghalonnau ei theulu a'i ffrindiau, a fydd fyth yn cael ei lenwi. Roedd yn enaid deallus, gofalgar a hardd. Dechreuodd ei busnes labordy llwyddiannus ei hun - Celtic Food Labs. Rhoddodd bopeth i'r busnes, ond ei gŵr, ei theulu, ei chŵn a'i ffrindiau oedd y pethau pwysicaf iddi!
“Roedd yn wraig ffyddlon a chariadus iawn. Y ffrind gorau allai unrhyw un obeithio amdano. Roedd ei hegni yn gadarnhaol, yn heintus ac yn gariadus tuag at ddieithriaid a'i ffrindiau. Roedd Danielle yn eich tynnu i mewn i'w byd yn wahanol i unrhyw un y byddwch yn ei gyfarfod. Roedd hi fel magned yn ein tynnu i gyd at ein gilydd.
“Roedd wrth ei bodd gyda gwyddoniaeth, yn gwersylla, yn partia gyda'i ffrindiau ac yn treulio amser gwerthfawr gyda'i theulu annwyl. Roedd yn fodryb arbennig ac yn mwynhau pob eiliad yng nghwmni ei nithod. Roedd hi'n rhan o deulu cariadus ac yn agos iawn at ei mam, ei thad, ei brawd, ei modrybedd a'i hewythrod ac roedd ei chariad yn ddiddiwedd. Cyffyrddodd â bywydau cymaint o bobl. Byddwn yn ei cholli'n fawr iawn, ond mae gan bob un ohonom atgofion anhygoel o'r hyn rydym wedi'i wneud yn ei chwmni ac yn eu trysori!
“Hoffem ddiolch yn fawr i bob un o'r Gwasanaethau Brys a fynychodd ac a gymerodd ran yn ystod y digwyddiad, mae eich ymdrechion dros y cyfnod hwn wedi bod yn broffesiynol ac yn arwrol. Diolch o waelod calon i bob un ohonoch.”
Dywedodd Ditectif Uwch-arolygydd Richard Jones: “Rydym yn meddwl am deulu, ffrindiau a chydweithwyr Danielle ar yr adeg anodd iawn hon.
“Mae ein hymholiadau yn parhau er mwyn cadarnhau beth achosodd y digwyddiad, ac mae'r ymholiadau hyn yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â'r asiantaethau perthnasol.
“Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth y busnesau yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest a'r trigolion lleol yn fawr wrth i ni barhau â'r gwaith hwn.”
Mae Heddlu De Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr o'r gwasanaeth tân a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gadarnhau beth achosodd y digwyddiad. Mae Porth Cyhoeddus Digwyddiadau Mawr wedi cael ei roi ar waith i alluogi'r cyhoedd i lanlwytho deunydd ffôn symudol, teledu cylch cyfyng neu ddeunydd fideo arall yn ogystal ag unrhyw wybodaeth arall a allai fod ganddynt a fydd, o bosibl, yn helpu gyda'r ymchwiliad. Gofynnir i unrhyw un a allai fod ganddynt ddeunydd fideo o'r ffrwydrad i'w gyflwyno i'r tîm ymchwilio drwy ddefnyddio'r ddolen hon - https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B79-PO1
DIWEDD.