Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Matthew Theophilus o ardal Caerffili, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd, wedi talu teyrnged iddo.
“Mae marwolaeth sydyn Matthew mewn amgylchiadau mor drychinebus yn golled enbyd.
“Roedd yn ddyn a oedd yn llawn bywyd a chariad tuag at ei deulu.
“Roedd yn dad cariadus i Shaya, ei ferch tair oed, a'i dywysoges fach.
“Roed Matthew yn fab cariadus i Neil a Vicky, ac yn frawd iau i Gareth a Gemma.
“Bydd ein hatgofion o Matthew yn para am oes a bydd ysbryd Matthew yn fyw yn ei ferch werthfawr.
Fel teulu, hoffem ddiolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth, a gofynnwn yn awr am amser i alaru gyda'n gilydd fel teulu.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar yr A4058 yn Nhrehafod, tua 10pm nos Sul 3 Rhagfyr 2023.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys tri cherbyd, sef BMW gwyn, Vauxhall Zafira glas a Hyundai glas.
Hoffem ddiolch i'r aelodau o'r cyhoedd a gynorthwyodd ar safle'r gwrthdrawiad.
Rydym am glywed gan unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu y gall fod ganddo fideo camera dashfwrdd neu deledu cylch cyfyng o'r digwyddiad neu'r modd yr oedd y cerbydau'n cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad.
Cysylltwch â ni gan ddyfynnu cyfeirnod 2300411311.
Ewch i:
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101