Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar #Cwmavon Road, Port Talbot, am 1:45pm ddydd Mawrth 26 Rhagfyr.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys beic modur ac mae'r beiciwr, Preston Camps, 15 oed o Bort Talbot, bellach wedi marw o ganlyniad i'w anafiadau.
Mae aelodau ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Bydd ysgol Preston, sef Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Joseff Sant, yn agor ei chapel rhwng 10am-2pm ddydd Iau a dydd Gwener er mwyn i ymwelwyr gynnau cannwyll neu adael nodyn mewn llyfr cydymdeimlo.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu a all fod â deunydd fideo camera dashfwrdd neu deledu cylch cyfyng o'r gwrthdrawiad neu cyn iddo ddigwydd.
Cysylltwch â ni gan ddyfynnu cyfeirnod 2300437605.