Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Patrick Likosso, 45 oed, wedi cael ei garcharu am 21 o flynyddoedd ar ôl cyfaddef iddo dreisio ac ymosod yn rhywiol ar ferched ifanc.
Roedd Likosso yn byw yn ardal Trelái, Caerdydd pan gafodd ei arestio ym mis Awst 2023.
Rhoddodd perthynas un o'i ddioddefwyr wybod am bryderon i'r heddlu ac yn dilyn ymholiadau pellach, cafodd dau ddioddefwr arall eu hadnabod.
Ni wnaeth Likosso unrhyw sylw yn ei gyfweliad cyntaf tra'r oedd yn nalfa'r heddlu, ond plediodd yn euog i 11 cyhuddiad yn ddiweddarach gan gynnwys pedwar cyhuddiad o dreisio a saith o ymosod yn rhywiol.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (Dydd Gwener, 22 Rhagfyr) i 29 o flynyddoedd – 21 o flynyddoedd yn y carchar ac 8 mlynedd drwydded estynedig.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rhiannon Phillips, Swyddog Diogelu Plant Heddlu De Cymru: "Mae'r dioddefwyr ifanc a'u teuluoedd wedi dangos cryfder a dewrder eithriadol drwy gysylltu â ni a chefnogi'r ymchwiliad.
"Diolch i'w penderfyniad i roi gwybod i ni, a diolch i ymdrechion yr Uned Ymchwilio Diogelu Plant, mae Likosso wedi cael ei ddal a bydd nawr yn wynebu cyfnod sylweddol dan glo.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn dod â rhywfaint o ddiweddglo i'r dioddefwyr a'u teuluoedd ac yn caniatáu i'r merched adennill eu hyder a symud ymlaen â’u bywydau”
Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru. Rydym yn cymryd pob adroddiad am ymosodiad rhywiol o ddifrif ac yn annog dioddefwyr i roi gwybod am unrhyw droseddau o'r fath.
Ceisiwch help a chymorth os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall. Fyddwn ni ddim yn eich barnu: Byddwn yn eich trin â sensitifrwydd a pharch, a byddwn bob amser yn rhoi eich iechyd a'ch llesiant yn gyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/