Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae'r pedoffilydd Alex Tindal wedi cael ei garcharu am X o flynyddoedd am gyfres o droseddau yn erbyn dioddefwyr mor ifanc â 10 mlwydd oed.
Cafodd Tindal, 31 oed, ei adnabod gan Dîm Ymchwilio Ar-lein yr Heddlu (POLIT) a phlediodd yn euog i gyfanswm o 53 o droseddau. Cafwyd Tindal, a ddefnyddiodd Snapchat yn bennaf i gyflawni ei droseddau, yn euog o fod â channoedd o ddelweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Achosodd i blant, mor ifanc â 10 mlwydd oed, gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol. Byddai wedyn yn eu blacmelio hefyd, gan fygwth datgelu'r fideos a'r delweddau yn gyhoeddus. Llwyddodd Tindal i ddylanwadu ar ei ddioddefwyr ifanc i anfon delweddau a fideos rhywiol ohonynt eu hunain. Llwyddodd i ennyn eu hymddiriedaeth yn gyflym, cyn bygwth anfon y delweddau at eu ffrindiau a'u teulu os na fyddent yn parhau i fodloni ei ofynion rhywiol.
Roedd gan y dyn o Ben-y-bont ar Ogwr dros 30 o ddioddefwyr ledled y DU yn ogystal â thramor yn yr Almaen, UDA ac Iwerddon. Cafodd Tindal ei arestio gan Heddlu De Cymru ym mis Medi 2022 a chafodd ei gadw yn y ddalfa. Daeth Tindal at sylw'r Heddlu yn dilyn atgyfeiriad a gafwyd gan blentyn yng Ngogledd Iwerddon.
Dywedodd y dioddefwr ei fod yn cael ei fygwth gan Tindal ar ôl gwrthod anfon delweddau rhywiol ato. Ar yr un pryd, cafodd Heddlu De Cymru adroddiad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yn nodi bod deunydd cam-drin plant yn rhywiol wedi cael ei lanlwytho i'r rhyngrwyd yng nghartref blaenorol Tindal yn Abertawe. Daeth Tîm Ymchwilio Ar-lein Heddlu De Cymru o hyd i leoliad yr unigolyn dan amheuaeth yn gyflym, ac aeth at i weithredu.
Cafodd Tindal ei arestio yn ei gartref, a gafodd ei chwilio wedi hynny. Cafodd nifer o ddyfeisiau, gan gynnwys ffonau symudol, cyfrifiaduron a gyriannau caled eu hatafaelu a'u harchwilio, a daeth graddfa ei droseddu yn amlwg.
Dywedodd un o swyddogion yr achos, y Ditectif Gwnstabl Martin Charles, “Dyma un o'r achosion mwyaf y mae ein tîm wedi gweithio arno, ac roedd cryfder y dystiolaeth a gasglwyd yn golygu nad oedd gan Tindel unrhyw ddewis arall ond pledio'n euog. Rwy'n ddiolchgar i'r heddluoedd eraill ledled y DU a thramor a gefnogodd yr ymchwiliad yn ogystal â'n Huned Fforenseg Ddigidol am adnabod y dioddefwyr, gan sicrhau y gallwn eu diogelu rhag niwed pellach. Yn bennaf oll, rwy'n ddiolchgar am y dewrder a ddangoswyd gan ddioddefwyr Tindal ledled y DU, wrth siarad â'r Heddlu a'i helpu i'w ddwyn o flaen ei well a'i atal rhag achosi rhagor o niwed.
“Mae troseddau Alex Tindal ymhlith y rhai mwyaf sinistr a rheibus a welwyd erioed, gan fod teuluoedd y rhan fwyaf o'r dioddefwyr yn gwbl anymwybodol o'r cam-drin a oedd yn mynd rhagddo. Mae'r byd ar-lein yn rhan annatod o fywyd plentyn, ond yn aml mae'n cael ei chuddio oddi wrth deulu agos a'r rhai a fyddai'n ymyrryd i helpu plentyn pe bai'n cael eu twyllo gan y math hwn o drosedd.”
Mae cymorth ar gael gan Heddlu De Cymru – reference external agencies here
Agencies include:
Adnoddau a Chymorth
Ffôn: 01223 203030 Gwefan: http://www.iwf.org.uk
E-bost [email protected] Gwefan: https://www.mind.org.uk/