Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Jack Liam Carroll wedi'i ddedfrydu i 11 mlynedd yn y carchar a chyfnod trwydded estynedig o 4 mlynedd ar ben hynny ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o 9 trosedd yn cynnwys trais rhywiol ac ymosod.
Gwadodd y dyn 27 oed o'r Caerau, Caerdydd y cyhuddiadau ond fe'i cafwyd yn euog o un achos o drais rhywiol, tri achos o ymosod drwy dreiddio, a phum achos o drais gan achosi niwed corfforol gwirioneddol.
Fe'i disgrifiwyd yn y llys fel unigolyn sy'n peri risg uchel i fenywod.
Wrth ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd, ddydd Mercher, 29 Tachwedd gwnaeth y barnwr ganmol y ddioddefwraig am ei dewrder yn ystod yr treial a phan ddarllenodd ei datganiad personol dioddefwr yn uchel o flaen y diffynnydd.
Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Ringyll Shannon Walker, o Heddlu De Cymru: "Mae'r ddioddefwraig wedi dangos cryfder a thaerni drwy gydol yr ymchwiliad.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn dod â rhywfaint o ddiweddglo iddi ac yn caniatáu iddi adennill ei hyder a symud ymlaen â’i bywyd.
"Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru. Rydym yn cymryd pob adroddiad am ymosodiad rhywiol o ddifrif ac yn annog dioddefwyr i roi gwybod am unrhyw droseddau o'r fath.”
Bydd Carroll yn y carchar am ddwy ran o dair o'i ddedfryd cyn y caiff ei ystyried am barôl. Cafodd hefyd ei wneud yn destun gorchymyn atal amhenodol ac yn destun gofynion hysbysiad troseddwr rhyw am oes.
Ceisiwch help a chymorth os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall. Fyddwn ni ddim yn eich barnu: byddwn yn eich trin â sensitifrwydd a pharch, a byddwn bob amser yn rhoi eich iechyd a'ch llesiant yn gyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/