Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mewn datganiad, gwnaeth teulu gwraig 80 oed, Pamela Griffiths, a adnabyddir fel Pam, ei disgrifio hi fel “enaid gofalgar oedd â gwir awch am fywyd”.
Mae Uned Ymchwiliadau i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd am 11.18 ddydd Gwener, 22 Rhagfyr, ar gyffordd Heol Albany ac Angus Street, Caerdydd, ac yn apelio am wybodaeth.
Yn dilyn y gwrthdrawiad â Ford Ranger arian, cafodd Pam ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle bu farw ddydd Sul, 24 Rhagfyr.
Mae ei theulu, sy'n cael cymorth gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, wedi rhyddhau'r deyrnged ganlynol:
“Roedd Pam yn wraig 80 oed fywiog, annibynnol a mentrus, yn enaid gofalgar oedd â gwir awch am fywyd. Byddai'n mynd allan i gerdded bob dydd ac yn mynd i siopau Heol Albany yn rheolaidd, yr ardal lle bu hi'n byw y rhan fwyaf o'i bywyd. Ei hoff beth i'w wneud oedd treulio amser gyda'i merch Amdana, ei mab yng nghyfraith Carl, ei hwyrion ac wyresau Daniel, Chloe a Chelsea a'i gor-wyrion a gor-wyresau Cameron, Ruben a Mila.
“Roedd hi'n mwynhau mynd allan gyda'i ffrindiau am ginio yn wythnosol a mynd i siopa gyda nhw neu gyda ni yn gyffredinol.
“Roedd hi'n mynd i Eglwys Sant Mihangel bob dydd Sul lle gwnaeth hi lawer o ffrindiau gan ymuno â'r gweithgaredddau a helpu â'r digwyddiadau.
“Roedd ganddi natur garedig iawn, a byddai bob amser yn gweld y gorau ym mhopeth, yn gwneud amser i bawb a'u rhoi nhw yn gyntaf, yn sicrhau bod pawb o'i hamgylch yn ei chwmni yn hapus. Doedd dim byd yn ormod o drafferth, ac os byddai'n teimlo y gallai helpu unrhyw un mewn unrhyw ffordd, byddai'n gwneud hynny.
“Mae hi bob amser wedi cael ei disgrifio yn ffrind hyfryd gyda chalon o aur. Roedd sawl un yn ei charu ac roedd hi'n bendant yn un o drysorau bywyd.
“Bydd colled fawr ar ei hôl ac mae hyn wedi gadael bwlch yn ein bywydau na all fyth gael ei lenwi. Mae ein calonnau fel teulu wedi'u torri'n llwyr.”
Hoffai Heddlu De Cymru siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, a stopiodd i helpu neu unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal ar yr adeg a all fod â deunydd fideo o'r gwrthdrawiad neu a welodd y ffordd yr oedd yr unigolyn yn gyrru ar adeg y gwrthdrawiad.
Cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu 2300433997.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.