Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Delwyr cyffuriau a gwyngalchwyr arian o Lanisien wedi'u carcharu am dros 11 mlynedd yn Llys y Goron Caerdydd
Cafodd Liam Gonzales (ar y chwith), 35 oed, a Habinder Baines, 36 oed, eu harestio ar ôl i swyddogion mewn dillad plaen eu gweld yn ymddwyn yn amheus yn Llanisien ym mis Mawrth 2023. Cafodd y ddau ddyn eu cadw yn y ddalfa, ac wrth chwilio eu ceir, daethpwyd o hyd i 1kg o gocên, gwerth rhwng £80,000 a £100,000 ar y stryd, wedi'i guddio o dan sedd car plentyn.
Daethpwyd o hyd i £24,000 mewn arian parod yn y car hefyd. Cafodd Bains and Gonzalez eu harestio ar amheuaeth o fod â chyffur dosbarth A yn eu meddiant, a chafodd y ddau eu dedfrydu ar 18 Rhagfyr yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd Liam Gonzales ddedfryd o chwe blynedd a naw mis, a chafodd Habinder Baines ddedfryd o bedair blynedd a phedwar mis.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Geoffery Banks, “Mae swyddogion mewn dillad plaen yn parhau i batrolio ein strydoedd mewn ceir heb eu marcio er mwyn mynd i'r afael ag achosion anghyfreithlon o fasnachu mewn cyffuriau a gwyngalchu arian. Rwy'n gobeithio y bydd hyd y dedfrydau hyn yn atal unrhyw un rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch o'r fath, a'u bod yn tynnu sylw at ddifrifoldeb troseddau cyfundrefnol yn llygaid yr heddlu a'r llysoedd.”