Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Am oddeutu 7.00pm neithiwr (nos Lun 11 Rhagfyr) cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad traffig ffyrdd difrifol a oedd yn cynnwys bws ac Audi A1 ar Ffordd Cwm Elái, Coedelái.
Dywedwyd bod tri dyn – dau 18 oed ac un 19 oed – wedi marw ar safle'r gwrthdrawiad. Cafodd dau ddyn arall, 18 ac 19 oed, eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gydag anafiadau sy'n peryglu bywyd.
Cafodd dau berson arall eu trin am fân anafiadau hefyd.
Mae'r ffordd wedi parhau ar gau wrth i ymchwiliadau i'r gwrthdrawiad fynd rhagddynt.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Esyr Jones o Heddlu De Cymru: “Rydym yn meddwl am bawb y mae'r digwyddiad trasig hwn wedi effeithio arnynt. Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd hyfforddedig yn cefnogi'r teuluoedd yn ystod cyfnod eithriadol o anodd.”
Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r modd yr oedd y cerbydau yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad gysylltu â Heddlu De Cymru.
Hefyd, gofynnir i unrhyw un sydd ag unrhyw ddeunydd camera dashfwrdd neu ffôn symudol neu a welodd y gwrthdrawiad gysylltu â ni gan ddyfynnu cyfeirnod 2300420639.
Ewch i:
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101