Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu farw Daniel, 30 oed, mewn eiddo ar Princess Street, Trefforest, ar nos Sul, 17 Rhagfyr.
Yn dilyn ymchwiliad dan arweiniad Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru, mae Kieran Ashton Carter, 22 oed, o Birmingham, a dau fachgen 17 oed o Bontypridd, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth.
Mae Grace Ellen Dresser, 21 oed, o Drefforest, wedi cael ei chyhuddo o gynorthwyo troseddwr ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r pedwar unigolyn wedi'u cadw yn y ddalfa a byddant yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, 26 Rhagfyr, 2023.
Mae aelodau o deulu Daniel, sy'n parhau i gael eu diweddaru a'u cefnogi gan swyddogion cyswllt teuluol, wedi rhyddhau'r datganiad canlynol:
“Mae Daniel, ein mab, ein brawd, a'n tad cariadus wedi cael ei gymryd oddi wrthym yn rhy gynnar o lawer ac rydym wedi cael ein llorio'n llwyr.
“Roedd ganddo galon fawr a chynnes, a phersonoliaeth gofalgar, doniol a chariadus. Roedd yn caru ei deulu a'i ffrindiau, a byddai bob amser yn eu rhoi nhw'n gyntaf.
“Byddwn yn gweld dy eisiau di'n ddiamod ac rydym yn ddiolchgar iawn dy fod wedi bod yn rhan o'n bywydau. Byddwn yn trysori'r atgofion y gwnaethom eu creu gyda'n gilydd am byth.
“Byddwn bob amser yn dy garu, a bydd angen amser arnom i alaru ac i ddod dros y sioc o golli Daniel yn y ffordd echrydus hon.”
Mae dyn 33 oed a menyw 36 oed, o Lyncoch, y cawsant hefyd eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach fynd rhagddynt.
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo ar ddyfeisiau megis ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd drwy'r ddolen hon - https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B81-PO1