Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gwasanaethau brys yn parhau i fod ar safle tân ar Ffordd Hafren, Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, Rhondda Cynon Taf.
Mae hyn yn dilyn adroddiadau am ffrwydrad mewn eiddo toc wedi 7.00pm neithiwr.
Mae swyddogion wedi dod o hyd i gorff ar ôl chwilio'r safle.
Er nad yw'r broses o adnabod y corff wedi'i chwblhau, mae swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yn cefnogi teulu'r unigolyn sydd ar goll.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Richard Jones o Heddlu De Cymru:
“Rydym yn meddwl am deulu'r person sydd ar goll.
“Nawr bod y tân dan reolaeth, byddwn yn symud i'r cam ymchwilio er mwyn canfod beth achosodd y ffrwydrad hwn a'r tân dilynol.
“Mae'r ffyrdd yn cael eu hail-agor yn raddol ond bydd y digwyddiad yn dal i effeithio ar rai ffyrdd a busnesau yn yr ardal.
“Hoffwn ddiolch i drigolion a busnesau lleol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni ddelio â'r digwyddiad hwn.”
Mae tîm ymchwilio ar y cyd o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Heddlu De Cymru, ar y cyd â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ar y safle i ganfod achos y tân.