Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
|
|
|
Mae teuluoedd y tri dyn ifanc a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd am oddeutu 7.00pm nos Lun 11 Rhagfyr 2023, wedi talu'r teyrngedau canlynol iddynt.
Dywedodd teulu Jesse Owen, 18 oed, o Benygraig, Rhondda Cynon Taf:
"Roedd gan Jesse bresenoldeb a fyddai'n goleuo unrhyw ystafell. Roedd pawb a gafodd yr anrhydedd o'i adnabod yn ei garu. Roedd ganddo'r enaid mwyaf cariadus, hapus, caredig, pwyllog a hardd. Byddai wedi gwneud unrhyw beth dros unrhyw un. Roedd yn caru ei deulu a'i ffrindiau ac yn driw iddynt.
"Roedd Jesse yn dwlu ar focsio, oriorau a chymdeithasu â ffrindiau.
"Mae wedi gadael bwlch enfawr yn ein calonnau ni i gyd, ac ni fydd ein bywydau byth yr un fath hebddo. Bydd ei rieni, ei fam-gu a'i dad-cu, ei frodyr a'i deulu estynedig yn ei golli'n ofnadwy.
"Mae ein calonnau wedi'u chwalu."
Dywedodd teulu Morgan Smith, 18 oed, o Gwm Clydach, Tonypandy:
"Mae Morgan yn fachgen poblogaidd, ac yn fab, yn frawd, yn ŵyr, yn nai ac yn gefnder annwyl.
"Roedd pawb yn adnabod Morgan orau fel bocsiwr dawnus, a oedd wedi ennill pencampwriaeth Cymru yn flaenorol. Roedd yn un o sêr y dyfodol ac roedd ganddo yrfa ddisglair fel bocsiwr o'i flaen.
"Mae colli Morgan wedi ein llorio fel teulu, ac wedi gadael bwlch yn ein bywydau na all fyth gael ei lenwi. Rydyn ni'n dy garu di, ein mab annwyl.
"Hoffem ddiolch i'r holl wasanaethau brys a wnaeth eu gorau ar safle'r gwrthdrawiad.
"Byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn parchu ein preifatrwydd wrth i ni alaru am Morgan."
Dywedodd teulu Callum Griffiths, 19 oed, o Borth, sef ei fam Natalie, ei dad Lee, a'i chwaer Erin, sy'n 15 oed:
"Roedd gan Callum y wên harddaf a fyddai bob amser yn goleuo'r ystafell. Roedd yn rhodd werthfawr i ni fel mab, a bydd ein cariad tuag ato yn parhau am byth.
"Mae ein calonnau wedi'u chwalu, y tu hwnt i'w hadfer. Roedd ganddo enaid cariadus a gofalgar. Mae wedi gadael bwlch yn ein calonnau, na all fyth gael ei lenwi.
"Roedd Callum yn bencampwr y byd mewn cic-focsio, ac roedd wedi ennill nifer o fedalau Aur ac wedi cynrychioli Cymru mewn gwledydd gwahanol ym mhob cwr o'r byd.
"Cymhwysodd Callum fel barbwr ychydig dros flwyddyn yn ôl. Roedd yn farbwr brwdfrydig, gweithgar ac ymroddedig. Ac rydym yn falch iawn ohono. Rydym yn falch o bopeth y mae wedi ei gyflawni.
“Rydyn ni'n dy garu, ein pencampwr ni".
Ychwanegodd Erin, chwaer Callum:
"Callum oedd fy ffrind gorau, a'r person mwyaf anhunanol ar y ddaear. Byddaf yn ei garu am byth, ac rwy'n falch dros ben ohono."
Diwedd