Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr arestiadau am yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau o gymharu â mis Rhagfyr 2022.
Mae swyddogion wedi bod yn ymgymryd â phatrolau wedi'u targedu mewn cerbydau heddlu heb eu marcio ac wedi'u marcio fel rhan o Ymgyrch Limit, sef ymgyrch genedlaethol gan yr heddlu lle y cymerir camau dwysach yn erbyn unigolion sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Rhwng 1 Rhagfyr ac 21 Rhagfyr, mae nifer yr arestiadau am yfed a gyrru wedi cynyddu 41% (cyfanswm o 58), ac mae nifer yr arestiadau am yrru dan ddylanwad cyffuriau wedi cynyddu 32% (cyfanswm o 57) o gymharu â'r un cyfnod yn 2022.
Bydd yr ymgyrch, sy’n cynnal mwy o brofion ag anadliadur a phrofion swabiau cyffuriau ymyl ffordd, yn parhau tan 1 Ionawr 2024.
Mae Heddlu De Cymru yn annog pobl i beidio â gyrru os byddant wedi cymryd cyffuriau neu wedi yfed alcohol y Nadolig hwn.
Dywedodd yr Arolygydd Michael Prickett, Uned Plismona'r Ffyrdd: “Nid oes unrhyw ffordd o wybod faint y gallwch ei yfed ac aros o dan y terfyn, gan fod hynny'n gallu dibynnu ar eich pwysau, eich oedran, eich metaboledd, y bwyd rydych wedi ei fwyta a ffactorau eraill.
“Os canfyddir eich bod dros y terfyn ar gyfer yfed a gyrru, a/neu eich bod yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau, gallwch gael dedfryd o hyd at chwe mis yn y carchar, dirwy ddiderfyn, a chael eich gwahardd yn awtomatig rhag gyrru am flwyddyn o leiaf.”
Os bydd gyrrwr yn lladd rhywun tra bydd dan ddylanwad alcohol, gall gael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau (Adran 3A o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 3 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991)).
Mae'n drosedd gyrru os bydd unrhyw un o 17 o gyffuriau a reolir uwchlaw lefel benodol yn eich gwaed. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon a chyffuriau a ragnodwyd yn gyfreithlon: Cyffuriau a gyrru: y gyfraith - GOV.UK (www.gov.uk)
“Dylech bob amser holi'ch meddyg neu'ch fferyllydd os nad ydych yn siŵr a fydd eich presgripsiwn neu'ch meddyginiaeth dros y cownter yn effeithio ar eich gallu i yrru,” ychwanega'r Arolygydd Prickett.
“Gofynnir i unrhyw un sy'n pryderu am ei fod yn credu bod rhywun yn gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau gysylltu â'r heddlu ar 101 (neu 999 os yw'n achosi perygl uniongyrchol) neu fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”
Mae'r cynllun gyrrwr dynodedig, sydd ar waith am yr ail flwyddyn, yn hyrwyddo yfed yn gyfrifol a diogelwch ar y ffyrdd.
Ar hyn o bryd, mae 29 o safleoedd trwyddedig ar hyd a lled de Cymru yn cynnig diodydd meddal drafft am ddim i yrwyr dynodedig. Darllenwch fwy am y cynllun a'r safleoedd sy'n rhan o'r cynllun yma: Heddlu De Cymru yn ail-lansio'r cynllun gyrrwr dynodedig | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)