Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llongyfarchiadau mawr i ddau aelod o Heddlu De Cymru, sydd wedi derbyn Medal Heddlu'r Brenin yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ar gyfer 2024.
Cyhoeddwyd y medalau i'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jason Davies ac Edward Ough, cyn-Uwch-arolygydd sydd bellach yn ymgymryd â rôl staff yn yr adran Gwasanaethau Cyfreithiol ar y Cyd.
Wrth ymateb i'r anrhydeddau, dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Rwyf mor falch ar ran Jason ac Edward, sy'n llysgenhadon gwych dros Heddlu De Cymru, ac mae'r ddau ohonynt yn llwyr haeddu'r gydnabyddiaeth hon.
“Rwy'n falch o'u blynyddoedd lawer o wasanaeth ymroddedig a di-syfl i gymunedau De Cymru, ym mhob math o rolau. I'r naill a'r llall, mae'r anrhydedd hon yn gydnabyddiaeth gwbl haeddiannol arall o'r hyn a gyflawnwyd ganddynt.”
Ymunodd ACC Jason Davies â Heddlu De Cymru yn 2001, gan wasanaethu yn ardal Castell-nedd Port Talbot i ddechrau. Ers hynny mae wedi gwasanaethu mewn nifer o adrannau a rolau gwahanol, gan gynnwys gwasanaethu fel pennaeth Adran Diogelu'r Cyhoedd ac arwain portffolio Gwasanaethau Cyfiawnder.
Ym mis Tachwedd 2019, cafodd ei ddyrchafu'n Dditectif Brif Uwch-arolygydd (Pennaeth Troseddau), cyn ymuno â thîm y prif swyddog yn gynharach eleni.
Dywedodd ACC Davies:
“Rwy'n ddiolchgar o dderbyn anrhydedd mor uchel ei bri, ond yn wir ddiolchgar am gael fy enwebu gan yr union bobl sy'n cyflawni cymaint â minnau ac yn amlach yn fwy na minnau i'n cymunedau bob dydd.
“Cael gweithio gyda nhw a gwasanaethu'r cyhoedd yw'r anrhydedd a'r fraint fwyaf.”
Ymunodd Edward Ough â'r sefydliad yn 1993, yna cafodd ei leoli yng ngorllewin Caerdydd yn gyntaf. Ers hynny mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau cyn llwyddo i gael ei swydd ddelfrydol yn arwain Ymgyrchoedd Arbenigol, a dod yn bennaeth cyntaf y Gwasanaethau Cymorth Gweithredol. Ei rôl olaf fel swyddog oedd Pennaeth Cyfiawnder Troseddol.
Dywedodd fod cael yr anrhydedd yn “anghredadwy”, gan ychwanegu:
“Bu'n anrhydedd ac yn fraint i mi wasanaethu'r cyhoedd yn Ne Cymru am y 30 mlynedd diwethaf a gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid mor eithriadol ar hyd y ffordd.
“Er eich bod bob amser yn cofio'r rhannau gorau o'r swydd, mae plismona yn dal i fod yn ‘gamp cyd-daro’, ac yn un nad ydych chi na'ch anwyliaid yn dianc ohoni yn gwbl ddianaf yn aml. Hoffwn ddiolch i'm teulu, ffrindiau, enwebwyr a'r holl staff, swyddogion a phartneriaid cymunedol rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda nhw ar hyd y 30 mlynedd diwethaf – rwyf ond yn geidwad y wobr ar ran pob un ohonynt.”