Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i ymosodiad difrifol a ddigwyddodd neithiwr (dydd Mercher, 19 Rhagfyr) yn Sgwâr Canolog Caerdydd tua 8.45pm.
Mae dau ddyn ifanc, 18 ac 17 oed, yn yr ysbyty ar ôl cael eu trywanu, a dywedir eu bod mewn cyflwr difrifol wael.
Mae'r cordonau a roddwyd ar waith gan yr heddlu mewn sawl man yng nghanol y ddinas, gan gynnwys ar Heol Eglwys Fair, wedi cael eu tynnu i lawr. Hoffem ddiolch i aelodau'r gymuned am eu cymorth, eu dealltwriaeth a'u hamynedd yn ystod yr ymchwiliad hwn.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Tom Moore o Heddlu De Cymru: "Mae ymholiadau helaeth yn parhau er mwyn sefydlu amgylchiadau'r digwyddiad hwn.
"Mae gennym ddeunydd Teledu Cylch Cyfyng o'r adeiladau cyfagos a fydd yn ein helpu i geisio creu darlun o'r hyn a ddigwyddodd nos Fercher.
"Credir bod dau grŵp o bobl ifanc yn yr ardal cyn yr ymosodiad, a byddem yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo i gysylltu â ni."
Os gallwch helpu, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2300430965.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Er nad yw troseddau'n ymwneud â chyllyll yn rhan o fywyd beunyddiol yn Ne Cymru, mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithredu er mwyn atal problem rhag digwydd.
Dim ond lleiafrif o'n poblogaeth y mae troseddau'n ymwneud â chyllyll yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, gall unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud â chyllell arwain at ganlyniadau trychinebus i'r bobl dan sylw.
Drwy ein hymgyrch #DdimYrUn, rydym yn anelu at addysgu pobl ifanc am beryglon cario cyllell drwy roi'r adnoddau sydd eu hangen ar rieni, athrawon a grwpiau cymunedol i wneud hynny. https://www.nottheone.co.uk/cy