Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Defnyddiodd swyddogion a PCSOs Heddlu De Cymru y gwrthgyffur naloxone trwynol i achub bywyd am yr 50fed tro yr wythnos diwethaf.
Mae naloxone, gwrthgyffur brys ar gyfer gorddosau heroin a sylweddau opiaid neu opioid eraill, yn cael ei gario gan fwy na 500 o gydweithwyr, sydd wedi gwirfoddoli i wneud hynny.
Ar 22 Rhagfyr, cyrhaeddwyd carreg filltir o'r 50fed tro iddo gael ei ddefnyddio mewn ffordd gadarnhaol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Stuart Johnson, swyddog arweiniol ar gyfer naloxone:
“Mae Heddlu De Cymru yn arwain y ffordd ar gyfer y defnydd o naloxone trwynol ac mae hyn yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono.
“Nid yw cyffuriau yn gwahaniaethu, ac rydym wedi llwyddo i helpu i achub bywydau 50 o unigolion, sydd wedi gallu dychwelyd adref at eu teuluoedd a'u ffrindiau.”
Mae naloxone yn gweithio drwy wrthdroi'r trafferthion anadlu a all ddatblygu gan orddos o'r sylweddau hyn, sy'n rhoi mwy o amser i'r gofal meddygol brys gyrraedd.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Mae cyffuriau yn cael effaith enfawr ar y rheini sy'n brwydro â chamddefnyddio sylweddau, eu teuluoedd a chymunedau cyfan, a dyna pam ein bod yn gweithio'n ddiflino gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r broblem mewn sawl ffordd wahanol.
“Wrth wneud hynny, mae'n bwysig cofio bod y rheini sy'n gaeth i gyffuriau yn aml yn ddioddefwyr eu hunain, a dyna pam mae mor bwysig ymyrryd ar y cyfle cynharaf posibl, cynnig cymorth effeithiol ac ymdrechu i dorri'r cylch niwed.”