Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Nadolig y llynedd, roedd Mike Fealey yn paratoi at dreulio'r diwrnod gyda'i dad, Ron, a gweddill y teulu, yn ôl y traddodiad blynyddol.
Ar ôl agor anrhegion gyda'i ŵyr, roedd Mike yn disgwyl i Ron ymuno â nhw yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i barhau â'r dathlu.
Erbyn canol y bore, cafodd y teulu wybod bod Ron wedi bod mewn damwain y noson flaenorol ar ei ffordd adref o'r eglwys. Roedd yn ddifrifol wael yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac roedd angen iddynt fynd yno cyn gynted â phosibl.
Ddydd San Steffan, bu'n rhaid i Mike a'i deulu ffarwelio â Ron ar ôl iddynt wneud y penderfyniad anodd i ddiffodd ei beiriant cynnal bywyd.
Roedd Ron, a oedd yn 82 oed ac yn nyrs wedi ymddeol, yn mwynhau treulio amser gyda'i wyrion a'i wyresau, a'i or-wyrion a'i or-wyresau, yn ogystal â mynd i'r gampfa ddwywaith yr wythnos. Roedd yn aelod gweithgar o bwyllgor Clwb Rygbi Dowlais ac yn drysorydd Capel Sant Illtud yn Nowlais.
Ar Noswyl Nadolig y llynedd, cafodd ei daro gan yrrwr meddw ym Merthyr Tudful, wrth iddo gerdded adref o'r Offeren.
“Roedd y ffaith bod y ddamwain wedi digwydd fel y gwnaeth yn teimlo fel cymaint o wastraff.
“Roedd yn cerdded adref o'r eglwys, a daeth y person yma a'i daro heb unrhyw reswm ar y groesfan sebra, felly roedd yn teimlo fel cyfres o benderfyniadau ofnadwy a arweiniodd at farwolaeth fy nhad.
“Byddai'r Nadolig fel arfer yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, ond nawr mae ymdeimlad o ofn yn perthyn iddo, oherwydd rydych chi'n gwybod beth sy'n dod a phwy fydd ddim yno.”
- Mike Fealey
Mae Heddlu De Cymru yn annog pobl i beidio â gyrru os byddant wedi cymryd cyffuriau neu wedi yfed alcohol y Nadolig hwn.
Nid oes unrhyw ffordd o wybod faint y gallwch ei yfed ac aros o dan y terfyn, gan fod hynny'n gallu dibynnu ar eich pwysau, eich oedran, eich metaboledd, y bwyd rydych wedi ei fwyta a ffactorau eraill.
Os canfyddir eich bod dros y terfyn ar gyfer yfed a gyrru, a/neu eich bod yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau, gallwch gael dedfryd o hyd at chwe mis yn y carchar, dirwy ddiderfyn, a'ch gwahardd yn awtomatig rhag gyrru am flwyddyn o leiaf.
Os bydd gyrrwr yn lladd rhywun tra bydd dan ddylanwad alcohol, gall gael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau (Adran 3A o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 3 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991)).
Ychwanegodd Mike, “Os oes unrhyw un yn penderfynu yfed a gyrru, neu gymryd cyffuriau a gyrru, does neb ar ei ennill”.
“Mewn mater o eiliadau, gallech ddifetha eich bywyd chi eich hun, a bywyd rhywun arall.”
Mae'r cynllun gyrrwr dynodedig, sydd ar waith am yr ail flwyddyn, yn hyrwyddo yfed yn gyfrifol a diogelwch ar y ffyrdd.
Ar hyn o bryd, mae 29 o safleoedd trwyddedig ar hyd a lled de Cymru yn cynnig diodydd meddal drafft am ddim i yrwyr dynodedig.