Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn lleol, 54 oed, wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag achos o ladrad arfog yn archfarchnad Lidl yn Nowlais, Merthyr Tudful.
Cafodd ei arestio y bore yma ar amheuaeth o ladrata ac mae yn nalfa'r heddlu.
Am oddeutu 5.15pm ddydd Sadwrn, 16 Rhagfyr, aeth dyn i mewn i'r siop gyda chynhwysydd tanwydd, gan arllwys y cynnwys dros aelod o'r staff, gan fynnu arian parod o'r til.
Cafodd cyflogeion eraill ac aelodau o'r cyhoedd eu bygwth a thaflodd y dyn ddiesel atynt.
Cafodd oddeutu £500 ei ddwyn.
Mae nifer o eitemau wedi cael eu cadw er mwyn cynnal archwiliad fforensig.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Tony Watts: “Roedd hwn yn ddigwyddiad dychrynllyd i'r staff a'r siopwyr yn Lidl. Mae un dyn wedi cael ei arestio ac mae ymchwiliad yn mynd rhagddo.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu 2300427053.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.