Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyhoeddi diweddariad - 4:31pm 5/12/23
Yn dilyn adroddiad bod menyw 29 oed wedi cael ei thrywanu ar Heol Moy, Aberfan, Merthyr Tudful, yn gynharach y bore ma, mae swyddogion wedi arestio dyn 28 oed o Ferthyr Tudful o dan amheuaeth o ymgais i lofruddio.
Mae yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd.
Cyhoeddi diweddariad - 12:59pm 5/12/23
Galwyd Heddlu De Cymru ychydig cyn 9.10am bore ma yn dilyn adroddiad bod menyw 29 oed wedi cael ei thrywanu ar Heol Moy, Aberfan, Merthyr Tudful.
Gadawodd y sawl dan amheuaeth y safle ar unwaith wedi'r digwyddiad, ac mae ymholiadau'n parhau er mwyn dod o hyd iddo. Mae chwiliad o'r ardal gyfagos ar waith gan swyddogion arfog.
Mae'r ysgolion lleol wedi gweithredu eu protocolau cyfyngiadau symud i gadw disgyblion yn ddiogel tra bo'r digwyddiad yn mynd rhagddo.
Rydym yn parhau i ofyn i bobl osgoi'r ardal fel bod modd i ni ymdrin â'r digwyddiad hwn yn effeithiol.
Cludwyd y fenyw i'r ysbyty gydag anafiadau, ond ni chredir eu bod yn bygwth ei bywyd ar hyn o bryd.
Cyhoeddi datganiad - 11:43am 5/12/23
Mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i ymosodiad difrifol a ddigwyddodd ar Heol Moy, Aberfan, Merthyr Tudful, ychydig cyn 9.10am y bore ma.
Mae swyddogion arfog yn yr ardal, a gofynnwn i bobl osgoi'r ardal fel bod modd i ni ymdrin â'r digwyddiad hwn yn effeithiol.
Bydd rhagor o fanylion i ddilyn yn fuan.