Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn Llandaf, Caerdydd, ar Noswyl Nadolig.
Lansiwyd ymchwiliad ar ôl i ddyn 23 oed gael ei ganfod wedi'u anafu mewn cyfeiriad ar Chapel Street am tua 11.30am ddydd Sul, 24 Rhagfyr.
Cafodd Dylan Thomas, 23 oed, o Landaf, ei gyhuddo o lofruddiaeth ac mae wedi'i gadw yn y ddalfa. Mae ei ddyddiad yn y llys i'w gadarnhau.
Er na chynhaliwyd gweithdrefn adnabod ffurfiol eto, mae teulu'r dioddefwr wedi cael gwybod ac maent yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies: “Rydym yn cydymdeimlo â theulu'r dioddefwr sy'n parhau i gael eu diweddaru a'u cefnogi gan ein swyddogion cyswllt teuluol.
"Mae cordonau'r heddlu yn eu lle o hyd yn Llandaf, gan gynnwys ym maes parcio'r Stryd Fawr, wrth i ymholiadau fynd rhagddynt.
“Caiff y cordonau eu tynnu cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, dylai unrhyw un sydd angen mynd at eu cerbydau yn y maes parcio siarad â'r swyddogion sy'n gwarchod y safle er mwyn cael mynediad.
“Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth a dealltwriaeth y gymuned leol yn fawr.”
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu 2300436163.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.