Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch proffil uchel gan yr heddlu yn parhau i ddarparu mwy o bresenoldeb plismona er mwyn atal amrywiaeth o broblemau sy'n effeithio ar ganol dinas Abertawe, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a dwyn o siopau.
Mae Ymgyrch Viscaria yn darparu patrolau ychwanegol gweledol iawn mewn lifrai i roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd a busnesau er mwyn ceisio lleddfu'r ofn o droseddau yng nghanol y ddinas a gwella lefelau diogelwch.
Lansiwyd Ymgyrch Viscaria ar 20 Tachwedd 2023. Cyfawnwyd y canlynol fel rhan o'r ymgyrch hyd yma:
• rhoddwyd 38 o orchmynion i adael ardal
• gwnaed 66 o arestiadau/cyhuddiadau drwy'r post/ceisiadau i fynd i gyfweliad yn wirfoddol
• cynhaliwyd 59 o ddigwyddiadau stopio a chwilio
• gwnaed 9 atgyfeiriad ymddygiad gwrthgymdeithasol
• gwnaed 401 o ymweliadau sicrwydd â busnesau yng nghanol y ddinas
• mynychwyd 80 o ddigwyddiadau
Mae unigolion agored i niwed sy'n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a nodwyd drwy'r ymgyrch, ynghyd â phobl ddigartref wedi cael eu cyfeirio at ddarparwyr gwasanaethau a all eu helpu ymhellach.
Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn gweithio gyda gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i roi amgylchedd diogel i gyflwyno mesurau cefnogol ac ymyriadau allweddol i'r bobl sydd â'r angen mwyaf, ar y cyd â phartneriaid o opsiynau tai a'r awdurdod lleol.
Mae adnoddau ychwanegol yr Heddlu yn gwneud gwahaniaeth amlwg a gweladwy ar y strydoedd a chafwyd sylwadau cadarnhaol gan fusnesau, gwasanaethau gweithredol a phartneriaid.
Dywedodd y Prif Arolygydd Cymdogaethau, Lindsay Sweeney:
“Rydym yn ymrwymedig i gefnogi'r sector manwerthu ac aelodau ein cymunedau lleol sy'n ymweld â Chanol y Ddinas drwy gydweithio'n agos â phartneriaid i ddarparu amgylcheddau diogel lle gall pobl weithio a mwynhau. Nod patrolau ychwanegol gweledol iawn Ymgyrch Viscaria yw atal a chanfod troseddau a rhoi tawelwch meddwl i'r cyhoedd a busnesau.
“Byddwn yn parhau i ddefnyddio tactegau cadarn i dargedu'r sawl sy'n cyflawni troseddau yng Nghanol y Ddinas, ond byddwn hefyd yn ymgysylltu ag amrywiaeth o bartneriaid i sicrhau bod pobl agored i niwed yn cael cyfle i wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw.”
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart:
“Mae'n galonogol gweld y canlyniadau gwych o'r ymgyrch heddlu hon ac rydym yn ei chefnogi'n llwyr.
“Mae canol dinas Abertawe yn bwysig i bobl leol ac i'r gwaith parhaus o adfywio'r ardal dan arweiniad y cyngor – ac rydym am sicrhau y gall dinasyddion fwynhau canol eu dinas fel lle i fyw, siopa a gweithio a threulio eu hamser rhydd.
“Byddwn yn parhau i gydweithio ag asiantaethau eraill fel yr heddlu i sicrhau bod gwelliannau'n parhau i gael eu gwneud. Mae Ceidwaid Canol y Ddinas, a gefnogir gan Swansea BID, yn cydweithio'n agos â'r heddlu ac rydym yn parhau i fuddsoddi mewn teledu cylch cyfyng.
“Rydym am sicrhau bod canol ein dinas yn parhau i fod yn ddiogel ac yn groesawgar i'r cyhoedd.”
Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr Swansea BID:
“Mae'r ymgyrch dactegol hon sydd wedi'i thargedu, a gafodd ei rhoi ar waith yn strategol i fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan ein 800 a mwy o randdeiliaid yng nghanol y ddinas, yn gam cryf a phendant a groesawyd.
“Mae presenoldeb uwch gan yr heddlu, a gefnogwyd gan ein buddsoddiad, eisoes wedi cael effaith sylweddol, gan feithrin amgylchedd mwy diogel a chroesawgar yng nghanol y ddinas sy'n tyfu. Rwy'n hyderus y bydd y newidiadau cadarnhaol hyn yn parhau i ddatblygu.
“Mae'r canlyniadau'n dangos ymrwymiad diflino'r holl bartneriaid i ddarparu Canol Dinas sy'n ddiogel ac yn ffynnu.”