Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn apelio i'r cyhoedd gysylltu gydag unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys y gallai fod yn eu barn nhw.
Gwelwyd Ricky, 31 oed, ddiwethaf ar CCTV tua 2.20pm brynhawn dydd Sadwrn, 18 Tachwedd, ym Maes-y-Deri, Aberdâr, yn gwisgo dillad llwyd a du. Bydd pum wythnos wedi mynd heibio ers iddo ddiflannu ar 23 Rhagfyr.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Michelle Conquer: “Ers i Ricky ddiflannu, rydym wedi cynnal ymholiadau helaeth gan gynnwys adolygiad trylwyr o ddeunydd fideo CCTV, archwilio ardaloedd ac ymholiadau o dŷ i dŷ.
"Mae swyddogion arbenigol wedi bod yn chwilio mewn sawl lleoliad gyda chymorth dronau, hofrenyddion yr heddlu, yr uned cŵn, a'n tîm chwilio ac achub hefyd.
“Mae'n ymddangos bod Ricky wedi diflannu heb adael ei ôl.
“Hoffwn apelio unwaith eto i unrhyw aelodau o'r cyhoedd a all fod wedi gweld Ricky ers iddo ddiflannu brynhawn dydd Sadwrn 18 Tachwedd, gysylltu â ni. Rydym yn gwneud pob ymdrech i chwilio am Ricky, ac yn mynd ar drywydd pob achos posibl o'i weld pan fyddwn yn cael gwybod amdano.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion drwy un o'r ffyrdd canlynol. Dylech ddyfynnu rhif digwyddiad 2300394323.
*Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.*
Er mwyn rhoi gwybodaeth yn ddienw, cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy'r ddolen hon : https://crimestoppers-uk.org/give-information/forms/pre-form