Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cynhaliodd Heddlu De Cymru ac Is-adran Trwyddedu Tacsis Cyngor Abertawe ymgyrch ar y cyd i wirio dogfennaeth gyrwyr tacsis yn Abertawe a chadarnhau bod eu tacsis yn addas i'r ffordd fawr.
Yn ystod yr ymgyrch a gynhaliwyd ar nos Wener 15 Rhagfyr, aeth cerbydau Heddlu heb eu marcio ar batrôl yng nghanol dinas Abertawe gan dywys tacsis i bwynt archwilio er mwyn edrych i weld a oedd unrhyw ddiffygion. Gwiriwyd trwyddedau'r gyrwyr tacsi hefyd, a chynhaliwyd nifer o wiriadau eraill gan ddefnyddio systemau'r heddlu. Cynhaliwyd y gwiriadau hyn gan staff yr Heddlu a'r Cyngor.
Yn ystod yr ymgyrch, cafodd pedwar ar ddeg o gerbydau, gan gynnwys un ar ddeg o dacsis a thri cherbyd hurio preifat, eu harchwilio. O'r rhain, cafodd tri cherbyd eu gwahardd rhag eu defnyddio ar y ffordd ar unwaith:
• Cafodd un cerbyd ei wahardd oherwydd teiar diffygiol, golau cefn diffygiol yn ogystal â drws llithro cefn nad oedd yn gweithio.
• Cafodd cerbyd arall ei wahardd oherwydd bod golau'r brêc yn ddiffygiol – cafodd hwn ei atgyweirio yn y fan a'r lle
• Rhoddwyd cyngor ar deiars ar gyfer un o'r cerbydau
Rhoddwyd cyngor neu rybuddion i dri gyrrwr hefyd, un a oedd yn yrrwr trwyddedig yn gweithio heb gerdyn adnabod a heb arddangos y ddau fathodyn gofynnol.
Dywedodd James Ponting, Rhingyll o Heddlu De Cymru:
"Cynhaliwyd yr ymgyrch hon i sicrhau bod y tacsis a oedd yn cael eu defnyddio mewn cyflwr diogel a da ac y gallem gael sicrwydd bod gyrwyr y tacsi hynny yn drwyddedig i wneud hynny, ac felly'n gweithredu'n unol â’r gyfraith.
"Dylai hyn felly roi cysur a thawelwch meddwl i aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio gwasanaeth tacsi dros y Nadolig, yn ogystal â gwella diogelwch ar gyfer defnyddwyr eraill y ffyrdd a cherddwyr."
Dywedodd y Cynghorydd David Hopkins, Aelod o Gabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Gwasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol:
"Dylai aelodau o'r cyhoedd ddisgwyl i bob gwasanaeth tacsi fod yn ddiogel, a hynny'n gwbl gywir, a dyna pam mae ymgyrchoedd o'r fath mor bwysig.
"Dylai hyn atgoffa'r holl yrwyr tacsi yn Abertawe i sicrhau bod eu cerbydau a'u trwyddedau'n cyrraedd y safonau a ddisgwylir gennym, neu byddant yn wynebu'r risg o archwiliadau a chamau gweithredu."