Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O’Shea sy’n arwain yr ymchwiliad: “Gallaf gadarnhau bod tri pherson wedi cael eu harestio yn dilyn marwolaeth Daniel Rae mewn eiddo ar Princess Street, Trefforest, ddydd Sul.
“Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, dyn 22 oed o Firmingham a dyn 33 oed o Lyncoch, Pontypridd. Cafodd menyw 21 oed o Drefforest ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr a chynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
“Hoffwn ail-ddweud ein bod yn credu mai digwyddiad wedi'i dargedu oedd hwn ac ar hyn o bryd, rydym yn hyderus nad oes unrhyw risg ehangach i'r cyhoedd.
“Os oeddech yng nghyffiniau Princess Street neu Broadway am oddeutu 7.30pm nos Sul, neu os ydych wedi clywed unrhyw beth mewn perthynas â'r llofruddiaeth, ni waeth pa mor ddibwys ydyw yn eich barn chi, cysylltwch â ni. Gallai eich gwybodaeth o leiaf ychwanegu sicrwydd at fanylion nad ydym wedi'u cadarnhau eto.”
Mae'r Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr yn ymchwilio i lofruddiaeth Daniel, ynghyd â swyddogion a staff o bob rhan o Dde Cymru.
Gallwch gyflwyno deunydd fideo o ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd neu unrhyw wybodaeth arall y gall fod gennych drwy ddilyn y ddolen hon ar gyfer ymchwiliad y Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr - https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B81-PO1