Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pum unigolyn wedi'u harestio ac mae £33k o arian parod wedi'i atafaelu mewn cyfres o warantau yng Nghaerdydd fel rhan o ymdrech barhaus i fynd i'r afael â delio mewn cyffuriau.
Cynhaliwyd cyrch ar saith cyfeiriad yn Nhrelái, Caerau, a Chroes Cwrlwys, gan gynnwys Heol Poyston, Gwern Close, Heol Trelái, Marguerites Way, Hengoed Close, a Haverford Way, fel rhan o ymchwiliad i ymgyrch Llinellau Cyffuriau.
Llinellau Cyffuriau yw'r enw a roddir ar ddelio mewn cyffuriau lle mae grwpiau troseddol yn defnyddio llinellau ffôn i symud a chyflenwi cyffuriau.
Maent yn camfanteisio ar bobl sy'n agored i niwed, gan gynnwys plant a'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl neu broblemau dibyniaeth, drwy eu recriwtio nhw i ddosbarthu'r cyffuriau.
Cyfeirir at hyn yn aml fel ‘rhedeg cyffuriau’. Efallai y bydd troseddwyr hefyd yn defnyddio cartref unigolyn sy'n agored i niwed fel safle ar gyfer eu gweithrediadau. Gelwir hyn yn ‘cogio’ neu ‘cuckooing’.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Jones, o Heddlu De Cymru: “Rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â delio mewn cyffuriau a Llinellau Cyffuriau sy'n targedu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
“Fel bob amser, rydym yn ddiolchgar i'n cymunedau am eu hamynedd a'u cymorth wrth i'n swyddogion gynnal y gwarantau a'r arestiadau, a byddem yn annog y trigolion y cafodd eu bywydau eu difetha yn sgil gweithgarwch anghyfreithlon eu cymdogion a thrigolion, i barhau i roi gwybod am eu pryderon a'u hamheuon.
“Mae'r camau gorfodi a gymerwyd ddydd Gwener yn dangos ein bod yn gweithredu ar wybodaeth a roddir i ni, a byddwn yn gweithio'n ddiflino wrth dargedu'r rhai sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau.”
Yn ogystal ag arian parod, gwnaeth swyddogion hefyd atafaelu symiau sylweddol o grac a heroin a sawl ffôn symudol.
O blith y pump a arestiwyd, cafodd dau ddyn eu rhyddhau dan ymchwiliad a chafodd y canlynol eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa.
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch at ddelio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r achos hwn o'r ffordd rydym yn mynd i'r afael ag achosion o ddelio mewn cyffuriau yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
I ddysgu mwy am y Llinellau Cyffuriau a'r arwyddion i gadw llygad amdanynt, ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/cl/llinellau-cyffuriau/