Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu David Ejimofor wedi cyhoeddi'r deyrnged ganlynol iddo:
Gyda chalonnau trwm a galar aruthrol rydym yn cyhoeddi marwolaeth sydyn David Ejimofor, ein mab, brawd, cefnder, nai a ffrind annwyl.
Yn drasig, collodd ein hannwyl David, bachgen ifanc bywiog ac addawol 15 oed, ei fywyd mewn damwain boddi ar draeth Aberafan ar 19 Mehefin 2023. Mae'n fachgen duwiol a moesgar â diddordeb brwd mewn chwaraeon ac iechyd. Roedd bob amser yn ymdrechu am y gorau. Roedd ganddo wên heintus, natur ofalgar, ac roedd yn llawn brwdfrydedd. Bydd llawer yn gweld ei eisiau'n fawr.
Mae'r digwyddiad torcalonnus hwn wedi cael effaith fawr arnom. Fel y disgrifir gan y bobl leol, "roedd yn llonni pawb".
Daeth breuddwydion David o gael dyfodol disglair i ben yn gynnar, ond bydd y rhai a oedd yn ei adnabod ac yn ei garu yn ei gofio am byth.
Rydym yn croesawu ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad anffodus hwn ac rydym yn disgwyl am adroddiad trylwyr.
Nid yw hyn yn rhywbeth y byddem am i unrhyw un arall orfod ei ddioddef. Dyma pam rydym yn defnyddio bywyd ein hannwyl David fel esiampl ar gyfer newid. Diolch am eich cymorth, eich cariad ac am weddio drostom.
Dyma ddoleni ar gyfer ein deiseb change.org, sy'n ceisio gwella diogelwch ar draeth Aberafan ac erthygl newyddion sy'n ymwneud â'r digwyddiad:
Diolch o waelod calon,
Teulu Ejimofor