Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar ôl dilyn defnyddio diffibriliwr i achub bywyd person ym Maerdy yn 2016, mae'r Ditectif Gwnstabl Steven Davies wedi treulio ei amser rhydd yn gosod rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn ei gymunedau lleol yn Nhonyrefail a Gilfach Goch.
Erbyn hyn mae wedi cael ei gydnabod gan banel yn Stryd Downing a chyhoeddwyd ddydd Gwener ddiwethaf ei fod wedi ennill gwobr Points of Light.
Mae DC Davies wedi codi £50,000 tuag at y cyfarpar hanfodol sy'n achub bywydau, ac mae wedi goruchwylio'r gwaith o osod bron i 40 o ddiffibrilwyr yn y gymuned.
Mae DC Davies yn parhau i godi arian, gan ddatblygu cefnogaeth ochr gefn a hyrwyddo'r diffibrilwyr hyn, mae'n addysgu trigolion a phlant lleol ar eu lleoliadau ac ar sut i ddefnyddio'r diffibrilwyr gyda sesiynau hyfforddiant am ddim.
Ym mis Medi 2022 y gwelwyd yr enghreifftiau mwyaf amlwg o arwriaeth DC Davies.
Cafodd alwad ffôn yn gofyn am god y diffibriliwr yn y pentref, gan fod dyn 49 oed wedi cwympo gartref o flaen ei fab yn ei arddegau, ac nid oedd yn anadlu. Aeth DC Davies i leoliad y digwyddiad lle y bu'n rhoi CPR am dros awr cyn i'r gweithwyr meddygol proffesiynol gyrraedd ac, yn drist iawn bu'r dyn farw.
“Mae'r digwyddiad diweddaraf hwn yn dangos pa mor wylaidd ac anhygoel yw Steve Davies,” dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Russell Jenkins.
“Mae wir yn arwr cymunedol ac yn esiampl gwych i eraill yn Heddlu De Cymru.”
Cafodd Steve, ynghyd â'i Wobr Points of Light, Ddiolch gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan yn ddiweddar.