Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi ymuno ag ymgyrch genedlaethol er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) a chadw pobl De Cymru yn ddiogel.
Yn rhedeg o Orffennaf 3 i 9, nod Wythnos Ymwybyddiaeth ASB 2023 yw annog cymunedau i sefyll yn erbyn ASB a thynnu sylw at y camau y gellir eu cymryd gan y rhai sy'n ei ddioddef.
Mae'r wythnos, wedi'i threfnu gan Resolve, prif sefydliad ASB a diogelwch cymunedol y DU, yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau ledled y DU gan gynnwys Cynghorau, Heddluoedd, Cymdeithasau Tai, elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon.
Mae Heddlu De Cymru yn annog aelodau o'r cyhoedd i beidio â dioddef yn dawel os byddant yn dioddef ASB. Gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau i'r tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich awdurdod lleol, neu i'r heddlu drwy ein sgwrs fyw ar ein gwefan neu gallwch hefyd ein ffonio ar 101. Os yw'n argyfwng ac rydych mewn risg neu berygl enbyd gallwch ffonio 999.
Mae Heddlu De Cymru yn cynnal sawl digwyddiad ymgysylltu er mwyn codi ymwybyddiaeth o ASB ac annog ymddygiadau cadarnhaol. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau i ysgolion, clybiau ieuenctid a chanolfannau cymunedol er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc ac oedolion am ASB, casglu sbwriel, gweithredoedd beicio oddi ar y ffordd, arddangosiadau diogelwch dŵr gyda'r gwasanaeth tân a gweithgareddau eraill gyda'r cyngor lleol, tai, Adnoddau Cenedlaethol Cymru a phartneriaid eraill.
Bydd digon o gyfle i gymryd rhan. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth a bostiwyd ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Mae ymgyrch Haf Mwy Diogel hefyd yn rhedeg drwy gydol yr Haf ac yn cynnig awgrymiadau atal troseddau a chyngor diogelwch ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Brier, arweinydd ASB yr heddlu:
“Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru. Nid trosedd lefel isel yw ASB. Mae'n difetha cymunedau ac yn cael effaith ddifrifol ar ddioddefwyr. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar bawb – a gall pawb chwarae rôl i fynd i'r afael ag ef.
“Rydym eisiau ymyrryd yn gynnar ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hynny'n golygu rhoi cymorth i'r bobl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol, rhoi cymorth i'w teuluoedd a rhoi cymorth i'r dioddefwyr.
“Rydym yn gweithio gyda'n hasiantaethau partner i wneud cymaint o waith ataliol ag y gallwn. Mewn rhai achosion rydym yn dod ar draws troseddwyr mynych ac yna rydym yn gorfodi er mwyn sicrhau bod dioddefwyr ASB yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
“Os ydych yn dioddef ymddygiad mynych, sy'n achosi aflonyddwch, braw neu drallod i chi, yna rhowch wybod am hyn.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman:
“Un o fy mhrif flaenoriaethau fel Ysgrifennydd Cartref yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cael effaith negyddol wirioneddol ar les pobl a'u hymdeimlad o ddiogelwch yn eu cymdogaethau eu hunain.
“Rwyf am weld plismona â synnwyr cyffredin, sy’n sicrhau cyfiawnder cyflym i ddioddefwyr a chanlyniadau gwirioneddol i gyflawnwyr. Rwy’n falch o weld ymrwymiad heddluoedd i sicrhau bod ein Cynllun Gweithredu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cael ei roi ar waith ym mhob cymuned ledled y wlad, gan wneud ein strydoedd yn fwy diogel i bawb.”
Rydym hefyd yn eich annog i gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth De Cymru yn Gwrando. Mae hwn yn wasanaeth negeseua am ddim i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Ne Cymru er mwyn helpu ein cymunedau i gael y wybodaeth ddiweddaraf gyda newyddion, digwyddiadau ymgysylltu a gweithgareddau plismona cyffredinol gan eich timau heddlu lleol.
Mae hefyd yn rhoi cyfle gwych i'n cymunedau roi adborth i'w timau heddlu yn y gymdogaeth leol ar faterion sydd bwysicaf iddynt, gan ein helpu i weithio gyda'n gilydd i wneud de Cymru y lle mwyaf diogel yn y DU.
Gallwch gofrestru drwy fynd i: https://www.decymruyngwrando.co.uk/