Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd dyn o Lannau Mersi ei stopio gan heddlu Gorllewin Mersia ar 12 Mehefin 2023 fel rhan o ymgyrch ar y cyd gan Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol ar gyfer De Cymru, ac Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol y Gogledd-orllewin (NWROCU).
Roedd y dyn 45 oed o Lerpwl yn cario 105kg o Amffetamin â gwerth stryd o dros filiwn o bunnoedd yng nghefn ei gar.
Diolch i waith cydweithredol Tarian, NWROCU, Heddlu Glannau Mersi a Heddlu Gorllewin Mersia, cafodd y cyffuriau eu hatal rhag cyrraedd pen eu taith yn Ne Cymru.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Richards, o Tarian: “Mae'r llwyddiant hwn yn deillio o rannu cudd-wybodaeth ranbarthol a chydweithredu ar draws heddluoedd.
“Mae gwaith cydweithredol o'r fath yn ein galluogi i fynd i'r afael ag achosion o fasnachu eitemau anghyfreithlon, fel cyffuriau ac arian parod ledled y DU.”
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Steve Owens, Cydlynydd Llinellau Cyffuriau ar gyfer y Gogledd-orllewin: “Fel rhanbarth sydd â dau allforiwr cyffuriau mwyaf y Deyrnas Unedig, mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda heddluoedd ac asiantaethau ledled y wlad i nodi'r grwpiau troseddu hynny sy'n gyfrifol, stopio eu cludwyr ac atal y niwed aruthrol y mae'r cyffuriau hyn yn ei wneud i gymunedau. Dyma enghraifft ardderchog o'r gwaith cydweithredol sy'n digwydd bob dydd i gyflawni hyn.”