Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Essac Ali wedi’i garcharu am wyth mlynedd a hanner ar ôl iddo ei ganfod â gwerth hyd at £2.2m o heroin a chrac cocên yn ei feddiant.
Cafodd Ali, 35 oed, ei arestio yng Nghaerdydd ar 8 Mawrth ar ôl iddo gael ei orfodi i stopio ei gar gan symudiad blwch tri char pan geisiodd ddianc.
Arweiniodd at chwiliadau a gynhaliwyd wedyn mewn cyfeiriadau a oedd yn gysylltiedig ag Ali yn Heol y Gadeirlan, Caerdydd, a’r Barri at adfer swm sylweddol o gyffuriau Dosbarth A a oedd wedi’u cuddio uwchlaw nenfwd crog a £37,320 o arian parod wedi’i guddio o dan wely mewn cyfeiriad yn y Barri.
Cafodd cyfanswm o fwy na 17kg o heroin a 4kg o grac cocên eu hadfer ynghyd â'r arian parod. Cyfrifwyd bod gwerth cyfanwerthol y cyffuriau rhwng £300,000 a £438,000 ond byddent wedi cael gwerth stryd yn y pen draw o hyd at £2.28m. Plediodd Ali yn euog i ddau gyhuddiad o fod â meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi cyffuriau dosbarth A a meddu ar eiddo troseddol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Joe Lewis:
“Dyma oedd un o’r atafaelau mwyaf erioed gan Heddlu De Cymru. Mae'r symiau enfawr a atafaelwyd yn awgrymu bod hyn yn rhan o ymgyrch sylweddol a byddai'r heroin a'r cocên hwn wedi cyrraedd strydoedd De Cymru yn y pen draw.
Mae cyffuriau yn sarnu cymunedau lleol ac mae erlyn Essac Ali yn dangos ymrwymiad Heddlu De Cymru i amharu ar grwpiau troseddau cyfundrefnol, cael gwared ar gyffuriau oddi ar ein strydoedd a dod â’r rhai dan sylw o flaen eu gwell.”