Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daeth yr anhrefn yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol yn Snowden Road, Trelái, a gymerodd, yn drasig, fywydau Kyrees Sullivan a Harvey Evans, a oedd yn ddau ffrind agos iawn.
Mae ein meddyliau gyda'u theuluoedd a'u ffrindiau a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad ofnadwy hwn. Mae'r teuluoedd yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt teuluoedd.
Mae chwech o bobl – tri dyn 20, 25 a 35 oed, dwy fenyw 35 a 37 oed, a bachgen 16 oed – wedi cael eu harestio yr wythnos hon ar amheuaeth o derfysg.
Daw hyn â chyfanswm yr arestiadau i 27.
Dywedodd Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ceri Hughes: “Yn ystod yr anhrefn cafodd nifer o gerbydau eu rhoi ar dân, difrodwyd eiddo, anafwyd swyddogion heddlu, ac roedd ofn ar drigolion yn eu cartrefi.
“Fel rhan o’r ymchwiliad hyd yn hyn, mae 432 o ddarnau o luniau oddi ar wisg corff gan swyddogion heddlu wedi'u casglu, yn ogystal â sawl awr o fideos wedi'u postio ar gyfryngau cymdeithasol, drôn, hofrennydd, a lluniau teledu cylch cyfyng.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan y gymuned hyd yn hyn ac i aelodau o’r cyhoedd sydd wedi darparu mwy na 70 o ymatebion gan ddefnyddio’r Porth Cyhoeddus Digwyddiadau Mawr (MIPP).”
Mae Heddlu De Cymru wedi gwneud atgyfeiriad gorfodol i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu i sicrhau bod y mater yn cael ei graffu’n annibynnol.
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth sydd gennym iddynt, a byddant yn parhau i gynnal ymchwiliad annibynnol i'r amgylchiadau a wnaeth arwain at y gwrthdrawiad trasig.
Gellir cyflwyno gwybodaeth gan y cyhoedd yn ymwneud â'r gwrthdrawiad a'r anhrefn, a deunydd digidol ar-lein drwy borth cyhoeddus https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B72-PO1