Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Cododd Jakir Hussain, 39 oed, y fenyw yng nghanol dinas Caerdydd yn ei dacsi, a gofynnodd am gael defnyddio ei hystafell ymolchi pan gyrhaeddon nhw ei chyfeiriad.
Ar ôl ei chloi yn ei dacsi yn gyntaf ac yna ei dilyn i mewn i'r tŷ, gwnaeth ei ffordd i mewn i'w hystafell wely lle y treisiodd hi.
Cafodd Hussain, o Grangetown, ei arestio bythefnos yn ddiweddarach pan gafodd ei ganfod trwy deledu cylch cyfyng.
Gwadodd fod unrhyw weithgarwch rhywiol wedi digwydd ond newidiodd ei stori yn ddiweddarach pan ddaethpwyd o hyd i'w DNA yn lleoliad y digwyddiad.
Yna honnodd Hussain iddo gael cydsyniad ar gyfer popeth a ddigwyddodd yn ystod oriau mân 19 Tachwedd, 2022.
Ond fe’i cafwyd yn euog o dreisio yn dilyn achos llys a’i ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Mercher, 14 Mehefin, 2023.
Clywodd y llys nad yw’r fenyw wedi gallu cysgu yn ei hystafell wely ers y digwyddiad hwn a’i bod wedi bod yn dioddef o ôl-fflachiadau.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rhys Powell: “Pan adroddwyd y mater i’r heddlu, cymerwyd camau cyflym i adnabod y gyrrwr a’i arestio cyn gynted â phosibl.
“Roedd fforenseg yn rhan allweddol o’r ymchwiliad ac yn hollbwysig wrth brofi bod gweithgarwch rhywiol wedi digwydd a orfododd Hussain i newid ei stori a chyfaddef iddo ddweud celwydd wrth gael ei gyfweld dan rybudd.”
Cafodd Hussain ei ddedfrydu i 11 blynedd yn y carchar. Yn ogystal â hyn, cafodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol a'i wneud yn destun gofynion hysbysu troseddwr rhyw am oes. Cafodd hefyd orchymyn atal a'i wahardd rhag gweithio fel gyrrwr tacsi am gyfnod amhenodol.
“Er i'r digwyddiad hwn beri trallod mawr iddi, rhoddodd y fenyw ddewr dystiolaeth yn y llys a darllen ei Datganiad Personol Dioddefwr,” ychwanegodd DC Powell.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn dod â rhywfaint o ddiweddglo iddi ac yn caniatáu iddi adennill ei hyder a symud ymlaen â’i bywyd.”
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad o ymosodiad rhywiol o ddifrif ac yn annog dioddefwyr i ddod ymlaen i adrodd amdano, ni waeth pryd y digwyddodd. Dylai dioddefwyr deimlo'n hyderus y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas, ac yr ymchwilir i'w honiad yn llawn.
I gael rhagor o gyngor ar drais, ymosodiadau rhywiol a throseddau rhywiol eraill ewch i: