Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am dreisio menyw mewn neuadd breswyl yng Nghaerdydd.
Dangosodd teledu cylch cyfyng Preet Vikal yn cario'r fenyw yn ei freichiau ac yn ddiweddarach ar draws ei ysgwyddau o ganol y ddinas.
Cyfaddefodd y dyn, 20 oed, ei fod wedi ei threisio yn ystod oriau mân 4 Mehefin, 2022.
Disgrifiwyd bod y fenyw wedi cael braw, ei bod yn methu cysgu, ac yn teimlo’n euog o ganlyniad i’w weithredoedd.
Daeth Vikal ar draws y fenyw pan oedd ar noson allan gyda'i ffrindiau yng nghanol dinas Caerdydd.
Dechreuodd gerdded adref o ardal Y Brodordy gyda ffrindiau ond fe'i gwelir yn ddiweddarach ar deledu cylch cyfyng yn cael ei chario gan Vikal ar Rodfa'r Brenin Edward VII a Heol y Gogledd.
Parhaodd Vikal i'w chario i eiddo yn ardal Heol y Gogledd lle cafodd ei threisio.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Nick Woodland:
“Mae ymosodiadau gan ddieithriaid fel y rhain yn hynod o anarferol yng Nghaerdydd ond mae Preet Vikal yn unigolyn peryglus.
“Manteisiodd ar fenyw ifanc feddw a bregus a gafodd ei gwahanu oddi wrth ei ffrindiau.”
Bu swyddogion yn edrych yn fanwl drwy fideos o deledu cylch cyfyng a dyma a arweiniodd at adnabod ac arestio Vikal, ynghyd â'r ffaith iddo gyfnewid negeseuon Instagram gyda'r fenyw.
Rhoddodd y fenyw adroddiad dewr i swyddogion o'r hyn a ddigwyddodd.
“O’r funud yr adroddwyd am hyn, roeddem yn gwbl ymroddedig i ganfod pwy oedd yn gyfrifol a'i ddwyn o flaen ei well,” ychwanegodd DC Woodland.
“Datgelodd yr ymholiadau anghysondebau yn y cyfrifon a ddarparwyd gan y diffynnydd, a dyma a wnaeth iddo bledio’n euog yn y pen draw, ynghyd â dewrder parhaus y fenyw.
“Rydyn ni’n gobeithio y daw'r ddedfryd â rhywfaint o ddiweddglo gan ganiatáu i’r fenyw allu adennill ei hyder a symud ymlaen â’i bywyd.
“Hoffwn ddiolch i’r tystion hynny a gysylltodd o ganlyniad i apêl gyhoeddus am wybodaeth ac a gefnogodd ein hymchwiliad.”
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am ymosodiad rhywiol o ddifrif ac yn annog dioddefwyr i gysylltu i adrodd amdano, ni waeth pryd y digwyddodd, gan wybod y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas ac yr ymchwilir yn llawn i’w honiad.
Dedfrydwyd Vikal i chwe blynedd a naw mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc. Bydd yn treulio dwy ran o dair o'r ddedfryd yn y ddalfa a'r gweddill ar drwydded.
I gael rhagor o gyngor ar dreisio, ymosodiadau rhywiol a throseddau rhywiol eraill ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/