Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae O’Sullivan wedi’i garcharu am 18 mlynedd gyda chyfnod trwydded estynedig o bum mlynedd.
Ym mis Tachwedd y llynedd, ymosododd y dyn 35 oed ar Steven Huxton mewn ymosodiad creulon, hirfaith, a llwfr yn Brynglas Street, Penydarren.
Cafodd Mr Huxton, 37 o anafiadau sylweddol i'w ben a newidiodd ei fywyd ac mae'n parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Plediodd O'Sullivan yn euog a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, 23 Mehefin.
Mewn datganiad effaith ar ddioddefwr, disgrifiodd mam Mr Huxton yr effeithiau arni hi a’i theulu.
“Ers y digwyddiad dwi’n teimlo nad oes gen i unrhyw beth ar ôl i fyw amdano. Dim ond i ymweld â fy mab yn yr ysbyty y byddaf yn gadael y tŷ. Pan oedd yn uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru, ymwelais ag ef bob dydd am bum mis ac ers iddo gael ei symud i Landochau rwy’n ymweld ag ef bob yn ail ddiwrnod. Dyma'r unig adeg y caf nerth i adael y tŷ.
“Rwy’n mynd i’r gwely yn diolch i Dduw ei fod yn dal yn fyw ac yn fy nagrau am fy mod wedi colli cymaint ohono. Mae fy machgen a fyddai fel arfer yn llawn bywyd, bellach yn gwbl wahanol, yn ddryslyd, yn ofnus, ac yn dal i fod yn gaeth i gadair olwyn. Mae mor anodd ei wylio yn brwydro bob dydd a cheisio sefyll neu hyd yn oed symud ei draed. Rwy'n crio bob dydd am y mab rydw i wedi'i golli. Ryw'n ysu am ei gael yn ôl. Mae hyn wedi rhwygo ein teulu. Hoffwn pe gallwn gael gwared o'i boen a'i ddioddefaint."
Dywedodd y Ditectif Ringyll, Mark Jones o Heddlu De Cymru:
“Mae teulu Mr Huxton wedi dangos cryfder, dewrder ac ymrwymiad anhygoel wrth helpu i sicrhau cyfiawnder i’w hanwylyd a fydd angen eu cefnogaeth am weddill ei oes.
“Rwy’n gobeithio y gallant deimlo bod rhywfaint o gyfiawnder wedi’i roi gyda’r ddedfryd hir hon.
“Gweithiodd ditectifs a chydweithwyr o’r Uned Ymchwilio Gwyddonol ar y Cyd yn ddiflino i sicrhau bod O’Sullivan wedi’i ddwyn o flaen ei well. Mae bellach yn wynebu cyfnod sylweddol o amser yn y carchar ac mae'r strydoedd yn fwy diogel o ganlyniad i hynny.
“Hoffwn ddatgan fy niolch i’r holl staff meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru am y gofal a’r cymorth maent wedi’u rhoi. Hebddynt ni fyddai canlyniad cadarnhaol yr ymchwiliad hwn wedi'i gyflawni."