Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Martin Saunders o ardal Aberpennar, a gollodd ei fywyd mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar Ffordd Caerdydd, Aberpennar ddydd Sadwrn, 17 Mehefin, wedi talu teyrnged iddo.
Dywedodd teulu Mr Saunders:
“Dim ond 48 oed oedd e pan gafodd ei gymryd oddi wrthym, roedd yn fab, yn dad, yn Gransha ac yn dad yng nghyfraith hyfryd.
“Roedd wrth ei fodd â cherddoriaeth ac yn hoff iawn o anifeiliaid ac roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn beiciau modur.
“Roedd yn adnabyddus iawn yn y gymuned ac roedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei garu. Roedd ganddo galon aur ac roedd yn gwbl anhunanol a byddai'n helpu unrhyw un mewn angen.”
Ychwanegodd ei ferch Jasmine:
“Ni all dim esbonio'r golled rydym i gyd fel teulu yn ei theimlo nawr. Roedd Martin yn Dad i fi ac roedd yn unigryw. Roedd yn caru ei deulu yn ddiamod.
Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb a oedd yn ei garu ac yn meddwl y byd ohono. Ef oedd y tad gorau y gallai unrhyw un ofyn amdano.
Mae wedi cael ei gymryd oddi wrthym yn rhy gynnar o lawer ac ni all unrhyw beth lenwi'r bwlch y mae wedi'i adael. Wn i ddim sut y byddaf yn dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd. Bydd yn ein calonnau am byth a fyddwn ni byth yn ei anghofio."
Ychwanegodd ei dad:
“Roedd Martin yn fab perffaith; Ni allaf ddod o hyd i'r geiriau i fynegi'r golled rwyf yn ei theimlo ar hyn o bryd.
"Ni ddylai unrhyw riant fyth orfod delio â cholli mab, yn enwedig mor ifanc."
Mae ymchwiliad yn dal i fynd yn ei flaen i achos y gwrthdrawiad, ac mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a fu'n dyst neu sydd â fideo o gamera dashfwrdd a allai fod o gymorth i gysylltu â ni, gan ddyfynnu 2300199828.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.