Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau aelod o Grŵp Troseddu Cyfundrefnol wedi cael eu hanfon i'r carchar am gynllwynio i gyflenwi cocên ac am feddu ar gocên gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Cafodd Juniad Khan, 32 oed, a Calum Mason, 24 oed, y ddau o Gaerdydd, eu harestio gan dditectifs o Tarian, sef yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol ar gyfer De Cymru, yn dilyn ymgyrch ar sail cudd-wybodaeth ym mis Awst 2022 pan atafaelwyd cyfanswm cyfunol o 27 cilogram o gocên â gwerth stryd amcangyfrifedig o £2.7 miliwn, a 2.7 cilogram o ganabis â gwerth stryd amcangyfrifedig o £27,560.00, o gyfeiriad cartref Mason.
O ganlyniad i adfer negeseuon, a gafodd eu hanfon a'u derbyn drwy ddefnyddio ap wedi'i amgryptio, wrth archwilio ffôn symudol a atafaelwyd gan Khan, cafwyd tystiolaeth o Gynllwyn i Gyflenwi Cocên rhwng mis Mai a mis Awst, 2022, yn cynnwys 47 cilogram ychwanegol o Gocên â gwerth stryd amcangyfrifedig o £4.7 miliwn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sion Parker: “Mae Tarian yn ymrwymedig i amddiffyn cymunedau de Cymru rhag troseddau difrifol a chyfundrefnol.
“Mae llwyddiant yr ymgyrch hon, sydd wedi cymryd gwerth tua £7.4 miliwn o gyffuriau oddi ar y strydoedd, yn dangos ein hymdrechion di-ildio i fynd i'r afael â Grwpiau Troseddu Cyfundrefnol y mae eu gweithgareddau yn trallodi ein cymunedau, ac, yn arbennig, y rhai sy'n agored i niwed
“Mae cyffuriau anghyfreithlon yn peri diflastod a niwed i'n cymunedau ac nid oes lle iddynt yn ein cymdeithas. Byddwn yn parhau i gydweithio â heddluoedd ac asiantaethau partner eraill i ddod â'r rhai y mae eu gweithgareddau troseddol yn difetha bywydau cymdogaethau yn ne Cymru o flaen eu gwell.
“Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn cyfleu'r neges ein bod yn ymrwymedig i amharu ar grwpiau troseddu cyfundrefnol a'u chwalu, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael gwared ar gyffuriau oddi ar y strydoedd.”
Cymaint oedd y dystiolaeth nes i'r ddau ddyn bledio’n euog, ac yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos hon, cafodd Juniad Khan ddedfryd o 14 mlynedd yn y carchar a chafodd Calum Mason ddedfryd o 12 mlynedd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau yn y gymuned ffonio'r heddlu ar 101 neu Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555111. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.