Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i dân angheuol mewn tŷ yn West Cross, Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tân yn Gonhill tua 1.20pm ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 1).
Bu farw bachgen tair oed yn y tân ac mae dyn 51 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys.
Cafodd merch 13 oed a dynes 39 oed driniaeth am effeithiau anadlu mwg.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price, o Heddlu De Cymru: “Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau’r bachgen ifanc a fu farw mewn tân mewn tŷ yn West Cross, Abertawe.
“Mae ymchwiliad yn parhau i sefydlu union amgylchiadau’r tân.
“Hoffem gydnabod ymdrechion y gymuned leol a diolch iddynt am y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig a’i darparu i’r teulu yn dilyn y digwyddiad trasig hwn.”
Nid yw achos y tân, a gafodd ei gyfyngu i un eiddo, yn hysbys ar hyn o bryd ac mae ymchwiliad ar y cyd yn cael ei gynnal gan yr heddlu a’r gwasanaeth tân.