Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae pobl dros 70 oed yn cael eu targedu’n anghymesur gan gludwyr ffug, yn ôl data newydd.
Mae twyll cludwyr yn sgam soffistigedig sy’n manteisio ar ymddiriedaeth a bregusrwydd pobl, lle mae'r rhai sy'n ei gyflawni yn aml yn ceisio twyllo dioddefwyr i godi a throsglwyddo symiau mawr o arian.
Datgelodd data gan y Swyddfa Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol, sy’n cael ei rhedeg gan Heddlu Dinas Llundain, y prif heddlu cenedlaethol ar gyfer twyll, fod pobl yn eu 70au neu’n hŷn wedi colli mwy na £12.6m ledled y DU o ganlyniad i dwyll cludwyr.
Yn syfrdanol, cafwyd hyd yn oed 153 o adroddiadau gan bobl yn eu 90au – roedd un adroddiad gan rywun dros 100 oed.
Rhwng Mai 2022 a Mai 2023, cafwyd 1,587 o adroddiadau am dwyll cludwyr gan bobl dros 70 oed ledled y DU. Collwyd cyfanswm o £16.3m o ganlyniad i dwyll cludwyr.
Yn Ne Cymru yn ystod 2022, collwyd cyfanswm o £33,978 o ganlyniad i dwyll cludwyr. Er bod y nifer hwnnw’n sylweddol is nag mewn llawer o rannau eraill o’r DU, mae swyddogion yma’n dal yn awyddus i godi ymwybyddiaeth a helpu pobl i ddysgu pryd y gallent hwy neu bobl y maent yn eu hadnabod fod yn cael eu targedu gan gludwyr ffug.
Mewn adroddiadau i Action Fraud, sydd hefyd yn cael ei redeg gan Heddlu Dinas Llundain, nodwyd cysylltiad lle mae cludwyr ffug yn targedu lleoliadau fel cartrefi a phentrefi ymddeol, cartrefi gofal ac adeiladau a oedd yn darparu llety byw â chymorth, gan dargedu’n aml rai o'r aelodau hynaf a mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lee Parish, o Dîm Gweithrediadau Twyll Heddlu Dinas Llundain:
“Mae twyll cludwyr yn drosedd ddinistriol sy’n manteisio ar bobl fregus sydd yn aml yn bobl hŷn. Mae miliynau o bunnoedd o bensiynau a chynilion sy'n ffrwyth llafur oes yn cael eu dwyn bob blwyddyn ac rydym yn canolbwyntio ymdrechion i atal twyll cludwyr yn y man cychwyn.
“Rydym wedi gweld tuedd gynyddol o dwyll cludwyr yn digwydd mewn pentrefi ymddeol, cartrefi gofal a llety byw â chymorth. Rydym yn gofyn i aelodau o’r teulu a staff sy’n cefnogi pobl hŷn ledled y DU fod yn wyliadwrus, yn enwedig o ran galwadau ffôn i breswylwyr, cludwyr sy’n cyrraedd ar feic modur neu mewn tacsi ac unrhyw ymwelwyr sy’n cyrraedd yn annisgwyl.
“Ni fydd banciau na swyddogion yr heddlu byth yn anfon cludwyr i nôl arian parod, cardiau banc na chodau pin gan unigolion a byddem yn annog unrhyw un sy’n meddwl eu bod yn cael eu targedu i roi gwybod am hyn drwy Action Fraud a hefyd i’w banc. Os oes trosedd yn digwydd ar y pryd, dylech bob amser ffonio 999.”
Arweiniodd Heddlu Dinas Llundain gyfnod dwysach o weithgarwch gweithredol i dargedu’r rhai sy’n cyflawni twyll cludwyr. Defnyddiwyd adnoddau ychwanegol, a hwyluswyd gan Heddlu Dinas Llundain, i ehangu ymchwiliadau presennol a newydd a arweiniodd at weithredu nifer o warantau ledled y wlad.
Mae twyll cludwyr yn sgam soffistigedig sy'n manteisio ar ymddiriedaeth a bregusrwydd unigolion. Mae'r rhai sy'n ei gyflawni'n aml yn defnyddio tactegau cyfrwys i dwyllo dioddefwyr a gwneud iddynt gredu eu bod yn cynorthwyo'r heddlu neu weithwyr o'u banc. Mae'r math hwn o dwyll fel arfer yn dechrau gyda galwad ffôn neu e-bost, lle mae'r twyllwyr yn esgus bod yn swyddogion banc, yn swyddogion yr heddlu, neu'n ffigurau awdurdodol eraill.
Unwaith y byddant yn cysylltu, mae'r twyllwyr yn pwyso ar ddioddefwyr â straeon argyhoeddiadol, gan honni'n aml fod gweithgarwch twyllodrus ar eu cyfrifon banc. Byddant yn ceisio creu ymdeimlad o frys ac yn gorfodi'r dioddefwyr i ufuddhau i'w gofynion.
Un dacteg gyffredin mewn twyll cludwyr yw argyhoeddi dioddefwyr i dynnu symiau mawr o arian o'u cyfrifon banc. Mae'r twyllwyr yn cyfarwyddo'r dioddefwyr i osod yr arian parod mewn amlen neu fag a'i drosglwyddo i gludwr a fydd yn ymweld â'u cartref i'w gasglu.
Bydd y cludwyr ffug yn gorfodi dioddefwyr i ddefnyddio gwasanaethau tacsi lle cânt eu hanfon wedyn at siopau gemwaith i brynu eitemau gwerth uchel. Mae adroddiadau hefyd wedi dangos bod dioddefwyr wedi cael eu hanfon i ganolfannau cyfnewid tramor, lle maen nhw’n cael eu cyfarwyddo i drosglwyddo arian yn electronig i’w “gadw’n ddiogel”.
Math arall o dwyll cludwyr yw argyhoeddi dioddefwyr i drosglwyddo eu cardiau banc, rhifau PIN, neu wybodaeth sensitif arall fel atebion i gwestiynau diogelwch. Mae'r twyllwyr yn honni bod angen y manylion hyn arnynt i ddilysu cyfrif y dioddefwr neu i gynorthwyo yn eu hymchwiliad. Unwaith y bydd y dioddefwyr yn datgelu'r wybodaeth hon, caiff y twyllwyr fynediad i'w harian a gallant ymgymryd â thrafodiadau anawdurdodedig.
I gadw'ch hun yn ddiogel, cofiwch:
Cofiwch, drwy fod yn wyliadwrus ac amau pethau gall hynny eich helpu i amddiffyn eich hun rhag twyll cludwyr. Cymerwch yr amser i ddilysu gwybodaeth, ceisio cyngor o ffynonellau dibynadwy, a pheidiwch byth â rhuthro i wneud penderfyniadau ariannol dan bwysau.
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, cysylltwch â'ch banc ar unwaith a rhowch wybod i Action Fraud ar-lein yn www.actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040.