Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Llun, 12 Mehefin, cyflwynodd ymchwilwyr o Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu hysbysiadau camymddwyn difrifol i ddau o swyddogion Heddlu De Cymru fel rhan o’u hymchwiliad yn dilyn marwolaethau Kyrees Sullivan a Harvey Evans yn Nhrelái ar 22 Mai.
Fel y dywed yr IOPC yn ei ddatganiad mae hysbysiadau o'r fath yn cynghori swyddogion y bydd ymchwiliad i'w hymddygiad. Nid ydynt o reidrwydd yn golygu y bydd unrhyw achos disgyblu yn dilyn.
Mae'r heddlu yn parhau i gydweithredu'n llawn ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac yn darparu gwybodaeth a deunyddiau ar ei gyfer, gan gynnwys deunydd fideo o gamerâu teledu cylch cyfyng a chamerâu a wisgir ar y corff.
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaethau Kyrees Sullivan a Harvey Evans wedi ei chael ar eu teuluoedd, eu ffrindiau a’r gymuned ehangach. Rydym yn parhau i feddwl amdanynt ac yn cynnig ein cydymdeimlad iddynt.