Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Carchar i ddelwyr cyffuriau a oedd yn gweithredu llinellau gyffuriau rhwng Llundain a Chaerdydd.
Aeth Sultan Ismail ac Abdilgader Yasin ati i ddefnyddio cyfeiriadau defnyddwyr cyffuriau bregus i gyflenwi cyffuriau, gan roi cyfarwyddyd iddynt ddelio ar eu rhan.
Mae dau ddyn a fu'n gweithredu llinell gyffuriau yng Nghaerdydd, gan fanteisio ar bobl fregus, wedi cyfaddef eu bod wedi bod yn gysylltiedig â chyflenwi crac cocên a heroin.
Cafodd Sultan Ismail, o Gaerau, Caerdydd, ac Abdilgader Yasin, o Pimlico, Llundain, eu harestio gan Uned Troseddau Cyfundrefnol Heddlu De Cymru, gyda chymorth cydweithwyr yn yr Heddlu Metropolitanaidd.
Roedd y pâr yn gweithredu ‘llinell gyffuriau Banks’ ledled Caerdydd. Gwnaethant ddefnyddio cyfeiriadau defnyddwyr cyffuriau bregus i gyflenwi cyffuriau, gan roi cyfarwyddyd iddynt ddelio ar eu rhan.
Ond daeth eu menter i ben pan gawsant eu harestio ym mis Mawrth 2023.
Cawsant eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, 23 Mehefin.
Cyfaddefodd Yasin, 37, ei rôl o ran rheoli’r llinell gyffuriau, paratoi ar gyfer delio ar y stryd, ac ail-lwytho ei ‘redwyr’. Dangosodd tystiolaeth yn yr achos hefyd ei fod yn teithio yn ôl ac ymlaen i Lundain yn rheolaidd i ail-lwytho ei gyflenwad. Fe'i dedfrydwyd i 54 mis.
Cyfaddefodd Ismail, 30, ei fod wedi gofalu am y llinell tra roedd Yasin i ffwrdd yn Llundain a'i fod wedi rhoi cyfarwyddyd i redwyr ddelio. Fe'i dedfrydwyd i 49 mis.
Cawsant ostyngiad o 25% am bledio'n euog.
Dim ond un enghraifft yw'r achos hwn o'r ffordd y mae ein Huned Troseddau Cyfundrefnol yn ardal #Caerdydd yn mynd i'r afael ag achosion o werthu cyffuriau yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.