Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nodwyd eu bod wedi cyflawni troseddau moduro yn y digwyddiad a oedd yn cynnwys grŵp mawr o feiciau a cherbydau eraill a oedd yn teithio rhwng y Barri a Chaerdydd ddydd Sadwrn, 10 Mehefin.
Nodwyd bod yr wyth dyn rhwng 18 a 41 oed, dau fachgen 16 oed, a dynes 31 oed wedi cyflawni troseddau moduro yn y digwyddiad a oedd yn cynnwys grŵp mawr o feiciau a cherbydau eraill a oedd yn teithio rhwng y Barri a Chaerdydd ddydd Sadwrn, 10 Mehefin.
Roedd rhai o'r unigolion dan sylw yn gyrru mewn modd a oedd yn peryglu defnyddwyr ffyrdd a cherddwyr.
Mae hwn yn ymchwiliad rhagweithiol sy'n dal i fynd rhagddo a hyd yn hyn mae wedi cynnwys:
Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i gadw’r gymuned yn ddiogel. Mae gan bob defnyddiwr ffyrdd ddyletswydd i gadw at ddeddfwriaeth traffig ffyrdd.
Gall unrhyw un sydd ag unrhyw ddeunydd fideo o gamera teledu cylch cyfyng, ffôn symudol neu gamera dashfwrdd a fydd yn helpu ein hymchwiliad i droseddau moduro a gyflawnwyd yn ystod y digwyddiad, gyflwyno'r deunydd hwnnw ar-lein drwy borth cyhoeddus:
https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B72-PO2
Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad: 2300189926.
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
E-bost [email protected]
Ffoniwch 101
Mae Hysbysiad o Fwriad i Erlyn (NIP) yn hysbysiad a gyflwynir gan yr heddlu sy’n hysbysu unigolyn bod yr heddlu yn bwriadu ei erlyn am drosedd foduro. O dan a1 o Ddeddf Troseddwyr Traffig Ffyrdd 1988, mae'n rhaid rhoi Hysbysiad o Fwriad i Erlyn i yrrwr neu geidwad cofrestredig cerbyd y nodwyd ei fod wedi bod yn rhan o drosedd foduro. Mae'r troseddau y mae'n rhaid cyflwyno hysbysiad ar eu cyfer fel arfer yn cynnwys goryrru, mynd yn groes i signal traffig er enghraifft golau coch, gyrru'n ddiofal, gyrru'n beryglus neu ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Pwrpas yr Hysbysiad o Fwriad i Erlyn (NIP) yw sicrhau bod digon o rybudd yn cael ei roi i geidwad cofrestredig neu yrrwr y cerbyd y gallent gael eu herlyn tra bod digwyddiadau yn dal yn ffres yn y cof. Cynlluniwyd y broses hon i sicrhau nad yw'r gyrrwr yn cael ei ragfarnu'n annheg os bydd y mater yn mynd ymlaen i'r Llys.